Newyddion S4C

'Hoelen arall yn yr arch': Cynlluniau i gau canghennau bancio Santander yng Nghymru

Cangen Santander Caernarfon
Cangen Santander Caernarfon

Mae cynlluniau i gau saith o ganghennau bancio Santander UK yng Nghymru wedi eu disgrifio fel "hoelen arall yn yr arch" i stryd mawr un tref.

Ar draws Prydain mae'n bosib y bydd 95 cangen yn cau gyda 750 o swyddi yn fantol. 

Mae'r banc yn dweud y bydd y canghennau yn dechrau cau o fis Mehefin ymlaen. 

Y rhai fydd yn cau yng Nghymru yw Aberdâr, Aberhonddu, Bae Colwyn, Caergybi, Caernarfon, Coed Duon a Threffynnon.

Wrth ymateb i'r newyddion ddydd Mercher dywedodd yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts bod cau'r banc yng Nghaernarfon yn "hoelen arall yn yr arch."

“Yr hyn sy’n taro rhywun am Gaernarfon, ar hyn o bryd mae ‘na fygythiad i’r Swyddfa Bost, sy’n bwysig i’r gymuned," meddai wrth Newyddion S4C.

“Ond yr hyn dwi ‘di profi ers bod yn Aelod Seneddol yn 2015 ydy bod ni wedi colli jyst i dri chwarter o’r banciau mawr allan o gymuned Dwyfor Meirionydd.

“Ma’ rywun eisiau gwneud yn siŵr bod y strydoedd yma ddim yn mynd. Ma’ rhaid i ni ffeindio defnydd i’n strydoedd mawr er mwyn ein cymunedau.

“Mae jyst gweld y banciau’n camu allan a darparu gwasanaeth annigonol ar gyfer pobl sy’n gwbl ddibynnol arnyn nhw yn hoelen arall yn yr arch.

“Mae’n gyfleus iawn i’r banciau, ond mae wirioneddol yn bryder bod dim cynllunio o ran y gwasanaethau. Mae Bermo, Tywyn, does dim yr un banc ar ôl ar y strydoedd mawr yno."

Bydd oriau 36 o safleoedd ar draws y DU yn cael eu cwtogi gyda 18 cangen yn mynd yn rhai sydd heb gownter. Ond maen nhw'n dweud y bydd staff yno i gynnig cymorth. 

Dywedodd llefarydd ar ran Santander UK bod "patrwm cwsmeriaid wedi newid" a'u bod eisiau gwneud yn siŵr bod eu "canghennau yn addas i'r dyfodol".

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn ceisio "cael y cydbwysedd cywir" rhwng bancio ar y we a bancio wyneb yn wyneb gyda help staff.

'Gweithredu ar frys'

Wrth ymateb, dywedodd Janet Finch-Saunders, yr AS Ceidwadol sydd yn cynrychioli etholaeth Aberconwy, y byddai’r penderfyniad i gau’r canghennau yn “gwanhau strydoedd mawr”.

“Mae nifer y canghennau banc a chymdeithasau adeiladu yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol, o 695 yn 2012 i 435 yn 2022,” meddai.

“Mae rhai cymunedau, fel Llanrwst a Chonwy, eisoes wedi’u gadael heb unrhyw fanc o gwbl, gan achosi i drigolion orfod teithio hyd yn oed ymhellach i gael mynediad i’w banc yn bersonol.

“Nid oes amheuaeth y bydd hyn yn ychwanegu at yr heriau a wynebir gan lawer o bobl, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau, pobl hŷn a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

“Mae hyn hefyd yn gwanhau strydoedd mawr ac yn amlygu unwaith eto yr angen i weithredu ar frys i adfywio canol trefi gogledd orllewin Cymru” 

'Penderfyniad anodd iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran Santander UK: "Mae cau cangen wastad yn benderfyniad anodd iawn ac rydyn ni yn treulio llawer o amser yn asesu lle a phryd i wneud hyn a sut i leihau'r effaith y gallai hyn gael ar ein cwsmeriaid."

O ddiwedd Mehefin bydd y mwyafrif o fanciau sydd ar agor am oriau llai yn agor dri diwrnod yr wythnos.

Bydd 95 o fancwyr yn cael eu recriwtio ar gyfer y lleoliadau lle y bydd canghennau yn cau ac mae Santander UK yn dweud eu bod yn gobeithio adleoli rhai o'r gweithwyr i'r swyddi hynny.

Yn 2021 fe gaeodd 111 o ganghennau'r banc. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.