
Georgia eisiau herio Cymru am safle yn y Chwe Gwlad
Fe ddylai tîm rygbi dynion Cymru orfod chwarae gêm ail gyfle yn erbyn Georgia er mwyn cadw eu lle yn y Chwe Gwlad.
Dyna farn hyfforddwr Georgia, Richard Cockerill, wedi i Gymru orffen y bencampwriaeth gyda’r llwy bren am yr ail flwyddyn yn olynol.
Daw’r alwad wedi i’r Lelos ennill Pencampwriaeth Rygbi Ewrop – sef y gystadleuaeth ail haen ar y cyfandir – am yr wythfed tro yn olynol dros y penwythnos.
Ers trechu Georgia yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023, mae Cymru wedi colli bob un o’u gemau rhyngwladol.
Bellach mae Georgia wedi codi un safle uwchben y Cymry ar restr detholion y byd, ar ôl dringo i’r 11eg safle.

“Os wyt ti’n gorffen ar waelod tabl y Chwe Gwlad, pam ddyle chi gael rhwydd hynt o droi lan y flwyddyn wedyn a chwarae?” meddai Cockerill ar BBC Radio Wales.
“Rydym eisiau’r cyfle i brofi ein bod ni’n gallu cystadlu, felly mae’n gwneud synnwyr ein bod ni’n cael y cyfle i chwarae mewn gêm ail gyfle.”
Mae Georgia wedi profi llwyddiant yn erbyn Cymru yn y gorffennol, ar ôl ennill 12-13 yn Stadiwm Principality yn 2022.
“Dyna fyddai’r gêm rygbi fwyaf gwerthfawr yn y byd – Georgia yn erbyn Cymru yn y dyfodol agos i weld pwy sy’n cael chwarae yng nghystadleuaeth nesa’r Chwe Gwlad," ychwanegodd y cyn fachwr dros Loegr.
“Dyna beth yw jeopardy ynde. Fe fyddai’n gêm y byddai lot eisiau ei wylio.”
Lluniau: Asiantaeth Huw Evans