Newyddion S4C

Apêl wedi i ddyn ddioddef 'anafiadau difrifol' ar ôl ymosodiad yn Y Rhyl

Maes Clwyd

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad yn Y Rhyl, Sir Ddinbych ar y penwythnos.  

Fe gafodd dyn ei gludo i’r ysbyty gydag “anafiadau difrifol” wedi’r ymosodiad, meddai’r llu. 

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ym Maes Clwyd am tua 23.10 nos Sul. 

Maen nhw bellach yn apelio am ragor o wybodaeth wrth i ymchwiliadau barhau. 

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Sarah-Jayne Williams ei bod yn annog unrhyw dystion, neu unrhyw un arall sydd â gwybodaeth all fod o gymorth, i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod C037128.

“Bydd mwy o swyddogion yn parhau yn yr ardal er mwyn lleddfu unrhyw bryderon,” ychwanegodd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.