Newyddion S4C

Sefyllfa 'drist' yn sgil prinder arholwyr gyrru Cymraeg

Iwan Williams, hyfforddwr gyrru
Iwan Williams, hyfforddwr gyrru

Mae hyfforddwyr gyrru yn dweud nad ydyn nhw yn annog eu disgyblion i wneud y prawf yn Gymraeg bellach am fod yna brinder arholwyr yn yr iaith. 

Mae gan bawb yr hawl i sefyll ei arholiad gyrru trwy'r Gymraeg.

Ond yn ôl Iwan Williams, sydd yn cynnal gwersi gyrru yn y de a’r gorllewin mae’r sefyllfa yn “drist”. 

Dim ond un arholwr iaith Gymraeg sydd yn Abertawe meddai. 

"Fi’n dweud wrth disgyblion i beidio gwneud profion trwy’r Gymraeg, does dim pwynt a dim gobaith cael un o fewn chwe mis.

"Mae'n siom bod e wedi dod i hwn, ond dim ond un sydd allan o 10 yn Abertawe,” meddai wrth Newyddion S4C.

Mae Raymond Williams, sydd wedi bod yn hyfforddwr gyrru yng Ngwynedd ers 1998, yn dweud y byddai wedi archebu profion yn Gymraeg i nifer o’i ddisgyblion yn y gorffennol. 

Dyw hynny ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth bellach, gan fod nifer y profion mor brin meddai.

“I fyny i ryw ddwy flynedd yn ôl, ma’r rhan fwyaf o bobl dwi’n dysgu yn iaith Gymraeg cynta', a fyddwn i’n bwcio prawf drwy’r Gymraeg.

“Ond oherwydd yr holl aros rŵan, os oes gennych chi chwech arholwr yn based mewn un prawf arholi fatha Bangor, a ond dau yn siarad Cymraeg, ‘da chi mynd i roid dy hun flaen am ryw prawf gewch chi, Saesneg neu Cymraeg er mwyn cael y prawf yn gynt."

Image
Mewn rhai achosion, mae pobl yn gorfod aros misoedd am brawf arall os ydyn nhw'n methu eu prawf cyntaf
Mewn rhai achosion, mae pobl yn gorfod aros misoedd am brawf arall os ydyn nhw'n methu eu prawf cyntaf

Daw sylwadau’r ddau wedi’r newyddion ar ddechrau’r wythnos y bydd rhaid i ddysgwyr roi 10 diwrnod o rybudd pe bydden nhw'n dymuno canslo prawf gyrru yn hytrach na thri. Bydd y newid yn dod i rym o 8 Ebrill ymlaen.

Bydd hyn yn golygu na fydd modd canslo prawf gyrru llai na 10 diwrnod cyn dyddiad y prawf.

Yn ôl Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau Llywodraeth y DU, mae'r amser aros am brawf yng Nghymru tua 13 wythnos.

Mae gan yr asiantaeth darged o leihau'r rhestr aros ar draws y DU i saith wythnos erbyn diwedd 2025.

Mae'n rhan o gynllun sydd hefyd yn ceisio recriwtio 450 o arholwyr profion gyrru.

Image
Catrin Lewis
Bydd Catrin Lewis yn sefyll ei phrawf gyrru yn yr haf

Croesawu’r cynllun bod yn rhaid rhoi mwy o rybudd wna Catrin Lewis sydd wedi bod yn aros rhai misoedd i gael sefyll ei phrawf gyrru. 

Fe benderfynodd hi roi'r gorau i ddysgu am gyfnod oherwydd iddi fethu bwcio prawf gyrru.

"Dwi wedi ail ddechrau gwersi gyrru tua mis Ionawr ac wedi bwcio prawf ar gyfer cychwyn yr haf," dywedodd wrth Newyddion S4C.

"Yn wreiddiol, doedd dim slotiau ar gael ar gyfer prawf am tua pedair i bum mis.

"Wnes i ddechrau dysgu gyrru tua pum mlynedd yn ôl yn wreiddiol. Ond wnes i roi’r gorau iddi am gyfnod wedi i fi fethu ail-bwcio prawf cyn symud i lawr i Gaerdydd ar gyfer y brifysgol.”

Ei gobaith yw y bydd mwy o amser i bobl allu trefnu gwneud prawf arall yn gynt.

"Dwi wedi bod yn edrych ar y wefan yn gyson yn chwilio am slot cynharach ond gan amlaf mae unrhyw slotiau sy’n agor i fyny o fewn y dau i dri diwrnod nesaf.

"Fel rhywun sy’n gweithio llawn amser dydi hi ddim yn hawdd bwcio prawf yn fyr-rybudd gan fod angen amser i ffwrdd o’r gwaith. 

"Ar ben hynny byddai’n rhaid sicrhau bod fy hyfforddwr ar gael ar y diwrnod hwnnw gan fy mod yn bwriadu defnyddio ei gar ar gyfer y prawf."

'Cam bach' 

Mae Raymond Williams yn dweud bod y newid yn gam pwysig tuag at leihau'r amser aros "hirfaith".

“Ma' rwbath sy’n neud argaeledd profion yn well, yn werth neud. Ma’ hwn yn un cam bach i wneud newid mawr," meddai.

Yn ôl Iwan Williams mae Covid-19 wedi achosi pwysau enfawr ar hyfforddwyr gyrru. Mae'r rhestrau aros hir yn achosi mwy o straen. 

“Ni ‘di bod yn aros am hwn ers pum mlynedd, felly mae bownd o wneud gwahaniaeth," meddai.

Ond dyw ddim yn meddwl y bydd yn cwtogi llawer ar y rhestrau aros am brawf gyrru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.