Apêl wedi i 20 o geir Tesla gael eu difrodi yn Belfast
Mae tua 20 o gerbydau wedi cael eu difrodi tu allan i safle ceir Tesla yn Belfast.
Cafodd amryw un o'r ceir eu difrodi gyda tholciau ar rai ac eraill wedi colli eu drychau ochr.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad ddydd Sul am y digwyddiad yn y safle yn ardal Ffordd Boucher yn ne Belfast.
Dywedodd datganiad gan Gwasanaeth yr Heddlu Gogledd Iwerddon fore Llun: “Credir bod y difrod wedi digwydd rhywbryd yn ystod y 24 awr ddiwethaf.
“Mae tua 20 o gerbydau wedi’u targedu. Mae drychau ochr y rhan fwyaf wedi'u tynnu i lawr, tra bod ffenestri eraill hefyd wedi cael eu malu neu wedi derbyn tolciau i'r corff.
“Mae ymholiadau i sefydlu amgylchiadau’r digwyddiad yn parhau.”
Mae swyddogion wedi apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y fandaliaeth i gysylltu gyda nhw.
Llun: PA