Beiciwr modur 25 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân
Mae beiciwr modur 25 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad ar ffordd Gwmbrân Drive tua 13:50 ddydd Sul.
Roedd swyddogion yr heddlu, gwasanaeth ambiwlans, ambiwlans awyr a gwasanaeth tân yn bresennol.
Bu farw dyn 25 oed, oedd yn gyrru beic modur, yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu Gwent bod ei deulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r llu yn apelio am unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dashcam neu gylch cyfyng o Gwmbrân Drive rhwng 13:30 a 14:15 ddydd Sul, i gysylltu gyda nhw.
Mae modd rhannu gwybodaeth drwy wefan neu gyfryngau cymdeithasol Heddlu Gwent, neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2500083512.