William a Kate i herio ei gilydd yng ngêm y Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr
Fe fydd Tywysog a Thywysoges Cymru yn herio ei gilydd pan fydd Cymru yn wynebu Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Fe fydd William a Kate yn cefnogi timau gwahanol yn Stadiwm Principality.
Mae'r tywysog yn noddwr i Undeb Rygbi Cymru, tra bod y dywysoges yn noddwr i Undeb Rygbi Lloegr.
Mae'r cwpl cystadleuol wedi tynnu coes o'r blaen am gefnogi gwahanol dimau yn ystod y twrnamaint, gyda William yn cefnogi Cymru a Kate dros Loegr.
Yn 2023, dywedodd William y byddai’n “daith llawn tyndra” gyda’i wraig ar ôl i Gymru golli yn erbyn Lloegr yn y gystadleuaeth yng Nghaerdydd.
Mae Kate yn dychwelyd yn raddol i'w dyletswyddau cyhoeddus ar ôl datgelu ei bod yn rhydd o ganser.
Cyn y gêm, bydd y cwpl yn cwrdd â chwaraewyr sydd wedi'u hanafu ac wedi'u cefnogi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, yn Ystafell Syr Tasker Watkins - gofod sydd wedi'i neilltuo i'w ddefnyddio gan y chwaraewyr a'u teuluoedd cyn gemau.
Mae William yn noddwr i’r ymddiriedolaeth a sefydlwyd i helpu chwaraewyr yng Nghymru sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol wrth chwarae’r gamp, a’u hanwyliaid.