Dau o Abertawe yn euog o geisio smyglo gwerth £100m o gocên
Mae dau ddyn o Abertawe wedi'u cael yn euog o geisio smyglo gwerth £100m o gocên ar gwch pysgota oddi ar arfordir Cernyw ynghyd â dau ddyn arall.
Plediodd dau ohonyn nhw – Michael Kelly, 45, a Jake Marchant, 27 – yn euog i fewnforio cyffuriau Dosbarth A yn Llys y Goron Truro ym mis Hydref.
Ddydd Mercher cafwyd dau ddyn arall – Jon Williams, 46, o St Thomas, Abertawe, a Patrick Godfrey, 31, o Bort Tennant, Abertawe – hefyd yn euog o'r cyhuddiad mewn achos arall yn yr un llys.
Dywedodd yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA), a oedd yn ymchwilio i'r achos, bod 1,076kg o gocên wedi'i ddarganfod ar gwch y Lily Lola ar 13 Medi.
Toc wedi 14.00 y diwrnod hwnnw, roedd cwch Llu’r Ffiniau HMC Valiant ar batrôl oddi ar arfordir Cernyw a defnyddiwyd gwch aer i rwsytro'r Lily Lola.
Roedd Williams wedi prynu'r cwch am tua £140,000 ddau fis ynghynt. Ef oedd wrth y llyw, gyda Marchant drws nesa iddo.
Roedd Kelly, o Portway, Manceinion, y tu mewn i'r cwch ac roedd Godfrey yn cysgu mewn cadair, meddai'r NCA.
Yng nghanol y cyflenwad o gocên cafwyd hyd i ddyfais tracio a oedd yn gysylltiedig â defnyddiwr yn Ne America, yn ôl ymchwilwyr yr NCA.
Dywedodd rheolwr cangen yr NCA, Derek Evans: "Mae’r NCA a Llu’r Ffiniau wedi atal llwyth enfawr o gocên rhag taro strydoedd y DU ac Ewrop yn ehangach, lle byddai wedi difetha bywydau a chymunedau.
"Rydym wedi tarfu ar gadwyn gyflenwi cyffuriau ac wedi sicrhau bod troseddwyr cyfundrefnol yn cael eu hamddifadu o’r elw sylweddol y byddent wedi’i ennill pe bai’r cyffuriau hyn wedi cyrraedd y wlad.
"Mae’r NCA yn gweithio'n galed gyda phartneriaid yma a thramor i erydu’r rhwydweithiau troseddol sy’n elwa o’r fasnach gyffuriau ddinistriol."
Bydd y pedwar yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Truro ar 8 Mai.