Rhybudd i blant osgoi yfed 'slushies' wedi i rhai fynd yn sâl
Dylai plant o dan wyth oed osgoi yfed diodydd 'slush' sydd yn cynnwys y cynhwysyn glycerol medd ymchwilwyr.
Maen nhw hefyd yn galw am newid y cyngor iechyd i'r cyhoedd ar ôl astudiaeth gan feddygon.
Ar hyn o bryd yr argymhelliad yw peidio rhoi'r diod i blant o dan bedair oed.
Mae diodydd 'slush' yn cynnwys glycerol yn lle siwgr er mwyn eu stopio rhag rhewi yn gorn ac er mwyn rhoi'r effaith o ddiod sydd yn slwtsh.
Daw'r alwad gan y meddygon wedi i astudiaeth edrych ar 21 o blant ym Mhrydain ac Iwerddon oedd wedi mynd yn sâl ar ôl yfed 'slushie'.
Fe ddigwyddodd y mwyafrif o achosion rhwng 2018 a 2024 gydag oed y plant yn amrywio rhwng dau a bron saith oed.
Cafodd yr unigolion wybod bod ganddyn nhw hypoglycaemia neu lefel isel o siwgr yn eu gwaed.
Symptomau
Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu bod yfed 'slushies' sydd yn cynnwys glycerol yn "medru achosi syndrom o feddwdod glycerol mewn plant ifanc".
Ymhlith y symptomau posib mai sioc i'r corff, colli ymwybyddiaeth a lefelau isel o siwgr yn y gwaed.
Dywedodd yr ymchwilwyr bod hi'n anodd gwybod dos saff o'r ddiod.
"Mae'n bosib hefyd bod y dos a pha mor gyflym y cafodd y ddiod ei yfed, yn ogystal ag elfennau eraill fel os cafodd y ddiod ei yfed gyda phryd o fwyd neu arwahan, neu os cafodd y ddiod ei gymryd ar ôl ymarfer corff dwys yn ffactorau allai fod wedi cyfrannu."
Fe wnaeth y 21 plentyn wella yn gyflym a chael cyngor i beidio yfed 'slushies' eto. Ond fe wnaeth un o'r plant yfed 'slushie' eto ac fe aeth yn sâl o fewn awr ar ôl yfed y ddiod.
Cafodd casgliadau'r astudiaeth eu cyhoeddi mewn papur gwyddonol, Archives of Disease in Childhood.