Newyddion S4C

Disgwyl i Aaron Ramsey golli gemau Cymru eto oherwydd anaf

Aaron Ramsey (Llun: Asiantaeth Huw Evans)
Aaron Ramsey

Mae disgwyl i Aaron Ramsey golli dechrau ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru eto wedi iddo ddioddef anaf arall.

Roedd yn rhaid i'r Cymro 34 oed adael y cae gydag anaf i'w linyn y gar tra'n chwarae i Gaerdydd nos Fawrth.

Roedd disgwyl i Ramsey, sydd newydd ddychwelyd o anaf ar ôl cyfnod o bum mis, gael ei gynnwys yn y garfan i wynebu Kazahkstan a Gogledd Macedonia.

Fe fydd Craig Bellamy yn cyhoeddi ei garfan am 10:00 fore Mercher.

Roedd Ramsey yn edrych yn siomedig wrth adael y cae ac yn cuddio ei wyneb yn ei grys.

Dywedodd rheolwr Caerdydd, Omer Riza nad oedd yn gwybod "manylion llawn yr anaf" a byddai'r clwb yn asesu Ramsey ddydd Mercher.

Ers i Ramsey ddychwelyd i Gaerdydd yn 2023 mae anafiadau wedi bod yn broblem gyson iddo.

Yn y cyfnod hwnnw mae hefyd wedi colli llond llaw o gemau Cymru.

Mae ei gytundeb gyda'r Adar Gleision yn dod i ben ddiwedd y tymor, ac er ei fod yn awyddus i barhau i chwarae i'r clwb, mae'r anafiadau cyson yn golygu na fydd yn gallu chwarae rhan flaenllaw am weddill y tymor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.