Tua 1,800 o gŵn wedi eu dwyn yn y DU'r llynedd
Cafodd tua 1,808 o gŵn eu dwyn ar draws y Deyrnas Unedig y llynedd yn ôl ffigyrau’r heddlu.
Ac maen nhw'n dweud mai cŵn tarw Ffrengig bellach yw’r brîd mwyaf tebygol o gael eu cipio.
Cafodd 51 o gŵn tarw Ffrengig eu dwyn dros y 12 mis diwethaf, sy’n gynnydd o 38% o gymharu â ffigyrau 2023. Daw'r ffigyrau wedi Datganiad Rhyddid Gwybodaeth ar gyfer yr heddlu gan gwmni Direct Line Pet Insurance.
Gall cŵn tarw Ffrengig gostio hyd at £5,000 os mai bridiwr ag enw da sy’n eu gwerthu. Mae hyn yn golygu eu bod yn darged gan droseddwyr sy’n gwneud elw sylweddol drwy eu gwerthu ymlaen.
Gyda'r brid Rottweiler y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn lladradau, a hynny 180%, ac yna cŵn defaid.
Er bod lladradau cŵn yn gyffredinol wedi gostwng 21% ers 2023, dim ond tua un o bob pum ci (19%) gafodd eu dychwelyd at eu perchnogion y llynedd.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, roedd 23,430 adroddiad o gŵn wedi’u dwyn yn ôl ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i’r heddlu. Cafodd 5,005 (21%) eu dychwelyd i'w perchnogion.
Daeth y Ddeddf Cipio Anifeiliaid Anwes i rym ym mis Mai’r llynedd, gan wneud dwyn anifeiliaid anwes yn drosedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’n bosib i’r troseddwyr gael dedfryd o hyd at bum mlynedd o garchar, dirwy, neu’r ddau.
Mae galwadau am ddeddf debyg yng Nghymru hefyd.