
'Teimlo fel adra': Dychwelyd i Gymru ar ôl degawd i fagu teulu yn Gymraeg
'Teimlo fel adra': Dychwelyd i Gymru ar ôl degawd i fagu teulu yn Gymraeg
Mae cwpl ifanc wedi dychwelyd i Gymru ar ôl degawd yn byw yn Lloegr gyda'r bwriad o fagu teulu yn Gymraeg.
Fe wnaeth Catherine Peake, 31, o Fynydd Llandygai ger Bethesda gyfarfod ei phartner Matt Keeves, 33, o Borthaethwy yn ei harddegau.
Fe aeth y ddau ymlaen i astudio mewn prifysgolion dros y ffin ac yna symud i fyw yn ninas Derby yng nghanolbarth Lloegr am ddegawd.
Ers dros fis maen nhw'n byw yn Y Felinheli. Mae Catherine a Matt yn dweud eu bod "wrth eu boddau" yn cael byw ar bwys y mynyddoedd.
"'Da ni’n rili mwynhau mynydda, dringo a beicio, felly mae cael mynyddoedd ar y stepan drws yn hollol ideal," meddai Catherine.
"A hefyd y golygfeydd unbelievable a bod yn nes at y traeth, bod yn nes at teulu, gallu siarad Cymraeg bob diwrnod.
"Mae jyst yn teimlo fel adra, mae’n teimlad rili da."
Gwireddu breuddwyd
Mae Catherine, sy'n gemegydd, wedi bwriadu dychwelyd i Gymru ers tro.
"Oeddan ni 'di trafod symud nôl i gogledd Cymru ers blynyddoedd," meddai wrth Newyddion S4C.
"O'n i dal yn astudio tuag at PhD ag oedd Matt yn joio gwaith, ond wrth i ni fynd yn hynach nathon ni ddechra meddwl am gychwyn teulu ac oeddan ni’n eitha' sicr bo' ni isho magu teulu yma yn gogledd Cymru.
"Does ganddo ni ddim teulu ar hyn o bryd, ond rhyw ben yn y dyfodol 'sa ni’n licio magu teulu yn fama fel bod plant ni’n gallu siarad Cymraeg, yn dod i nabod diwylliant Cymraeg a bo' ni’n nes at ein teuluoedd ni."
Ond fe aeth ymlaen i ddweud bod diffyg swyddi yn yr ardal wedi oedi'r penderfyniad.
"Mae 'na rwystrau 'di bod yn ffeindio swyddi yn gogledd Cymru," meddai.
"Dw i 'di arbenigo mewn pwnc penodol - mewn cemeg, a nesh i astudio batris tra o'n i'n neud PhD - felly mae ffeindio swydd addas i sgiliau fi bach yn anodd."

Fel cyn-beiriannydd i gwmni ceir Rolls-Royce, roedd Matt hefyd wedi ei chael yn anodd i ddod o hyd i waith.
Ond mae bellach wedi dechrau swydd gyda chwmni technoleg yn Llanberis.
"Dw i'n meddwl bod rhai pobl yn poeni bo 'nhw ddim yn mynd i fedru cael swyddi addas yma," meddai Catherine.
"Mae 'na opsiynau yma, mae'n rhaid jyst chwilio bach mwy amdanyn nhw i gael yr opsiwn iawn.
"A dim jyst cael yr opsiwn iawn ydi o, mae'n rhaid i chi feddwl am gyflog a pethau mwy eang fel cyfleoedd i ddatblygu yn y swydd."
Ychwanegodd: "Mae 'na fwy i feddwl am 'na jyst cael un swydd sy'n addas."
'Croeso mawr'
Er bod Catherine yn parhau i chwilio am swydd newydd, mae hi'n edrych ymlaen at gael mwynhau'r awyr agored.
"Dw i’n rili edrych 'mlaen i 'neud mwy o seiclo yma ond mae 'na lot o chwaraeon 'da ni isho leanio mewn iddyn nhw lot mwy," meddai.
"Oeddan ni dal yn seiclo ac yn mynydda tra oedda ni’n Derby, ond yma mae bob dim yn fwy - mae’r mynyddoedd yn fwy, felly mae’r sialens awyr agored yn fwy.
"Dw i’n rili edrych 'mlaen bod o gwmpas natur lot mwy aml, felly fyswn i’n licio seiclo lawr i Pen Llŷn haf 'ma a cymryd y cwch drosodd i Ynys Enlli."

Yn ôl Catherine, mae cymorth gan brosiect Arfor Llwyddo'n Lleol 2050 wedi eu helpu i wireddu'r freuddwyd.
"Mae’r cymorth gan menter Llwyddo’n Lleol wedi bod yn rili defnyddiol i ni," meddai.
"Mae symud tŷ a symud dinas yn broses rili drud; mae ein tŷ ni yn Derby dal ar y farchnad, felly 'da ni’n dal i dalu mortgage yn fan 'na.
"Ond mae’r cymorth gan Llwyddo'n Lleol 'di galluogi ni i rentu tŷ yn gogledd Cymru tra bo' hynna dal yn mynd trwodd."
Ychwanegodd bod y fenter hefyd yn ei chefnogi i chwilio am swydd, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gymry yn yr un sefyllfa.
"Mae 'na grŵp ohona ni o deuluoedd sy’n symud nôl i Gymru, ac mae’n neis bo' pobl erill yn mynd trwy’r un peth ar yr un adeg," meddai.
"A bod 'na croeso mawr iddan ni'n dod nôl – mae hynna 'di bod yn rili neis."