Llangynnwr: Merch bedair oed fu farw ‘wedi ei darganfod yn ddiymadferth mewn bath’
Roedd merch bedair oed fu farw yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin wedi ei chanfod yn ddiymadferth mewn bath yn ei chartref, clywodd cwest heddiw.
Cafodd cwest Cali Marged Lewis-Mclernon ei agor a'i ohirio gan Paul Bennett, Uwch Grwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn Neuadd y Dref Llanelli fore Llun.
Dywedodd Hayley Rogers, Swyddog y Crwner yn Heddlu Dyfed-Powys, wrth y gwrandawiad fod yr heddlu wedi derbyn galwad am 17.59 ar Chwefror 20 gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn gofyn am gymorth oherwydd bod merch bedair oed oedd wedi cael "ataliad ar y galon” wedi cael ei chanfod yn “ddiymadferth yn y bath.”
Fe gafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Glangwili, ond bu farw am 2.45 y bore canlynol.
Cafodd dynes 41 oed ei holi ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol ar ôl marwolaeth y ferch ond mae hi bellach wedi ei rhyddhau.
Mae’r cwest wedi ei ohirio nes mis Mehefin, ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.