
Michael Sheen yn trafod 'poen' ei gymuned wedi i waith dur Tata gau
Mae’r Cymro Michael Sheen wedi disgrifio “poen” ei gymuned leol ym Mhort Talbot ar ôl i waith dur Tata gau, gan arwain at filoedd o ddiswyddiadau.
Fel rhan o raglen dogfen newydd, Michael Sheen’s Secret Million Pound Giveaway, mae’r seren Hollywood yn talu gwerth £1 miliwn o ddyledion pobl yn ne Cymru gyda'i arian ei hun.
Fe ddefnyddiodd yr actor, 56 oed, £100,000 i brynu 900 o ddyledion pobl a oedd yn gyfystyr â miliwn o bunnoedd.
Treuliodd bron i ddwy flynedd yn prynu’r dyledion ar ôl cydweithio gyda chyn gyfarwyddwr cwmni sy’n casglu dyledion, Roland Roberts – a hynny gyda’r nod o sefydlu cwmni tebyg ei hun.
“Da ni wedi bod yn gwneud hyn ers sbel bellach ac mae pethau wedi newid o ran sefyllfa dyledion.
“Dwi wedi colli aelodau o’m teulu yn ystod y cyfnod hwn. O’n i ddim yn siŵr a fyddwn ni erioed yn cyrraedd y pwynt yma.
“Mae’n eironig, ond dwi ddim yn siŵr o ddifrif os alla’i fforddio ‘neud hyn.
“Ond dwi dal am ei wneud, achos dwi wedi gwneud ymrwymiad,” meddai.

'Brifo'
Yn ystod y rhaglen ddogfen mae’r actor yn ymweld â chaffi lleol gan ddisgrifio’r golygfeydd roedd gweithwyr yno wedi eu gweld yn ystod dyddiau olaf y gwaith dur.
Fe gafodd y ffwrnais chwyth olaf yng ngwaith dur Port Talbot ei diffodd ar 30 Medi 2024, gan ddod â chynhyrchu dur yn y ffordd draddodiadol i ben yng Nghymru.
“Mae [gweithwyr y caffi] yn dweud bod pobl wedi bod yn eistedd yma ac yn llefain,” esboniodd Michael Sheen.
Mae Sheen yn cyfarfod â nifer o wleidyddion yn ystod y rhaglen, gan gynnwys cyn Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Gordon Brown. Mae Mr Brown yn dweud wrtho y byddai’n ei helpu i drefnu “cyfarfodydd angenrheidiol.”
Dywedodd yr actor ei fod wedi mynd at nifer o fanciau i drafod ei gynlluniau ond bod pob un wedi ei wrthod.
Fe gyhoeddodd Michael Sheen ei fod yn actor “nid er elw” yn 2021.
Bydd modd ffrydio a gwylio Michael Sheen’s Secret Million Pound Giveaway ar Channel 4 nos Lun am 21.00.