Newyddion S4C

'I fi, Reform yw’r unig ddewis ar ôl': Pleidiau asgell dde ar gynnydd ar draws Ewrop

Y Byd ar Bedwar 10/03/2025

'I fi, Reform yw’r unig ddewis ar ôl': Pleidiau asgell dde ar gynnydd ar draws Ewrop

“Reform yw’r unig ddewis sydd ar ôl yn y wlad yma.”

Dyna farn Oliver Higgins, bachgen 16 oed sy’n bwriadu pleidleisio dros blaid Reform UK yn Etholiad Senedd Cymru yn 2026.

Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Oliver: 

“Mae Reform yn ceisio rhoi gobaith yn ôl i bobl, yn enwedig ym myd busnes a byd gwaith - dod lawr â threthi, a lleihau ar y tâp coch ar fusnesau’n gorfod delio ag e.” 

Image
Oliver Higgins

Mae polisi Reform UK ar rewi mewnfudo nad yw’n ‘hanfodol’ hefyd yn apelio at Oliver.

“Rwy’n poeni am yr effaith economaidd a faint mae’n costio i ddod â phobl mewn, ond hefyd yr effaith diwyllianol a gallu mewnfudwyr i allu integreiddio mewn i gymdeithas. Rwy’n meddwl y bydd hyn yn effeithio arna i yn y dyfodol, yn enwedig pan ‘dwi’n dod yn drethdalwr.”

Mae cefnogaeth Reform UK ar gynnydd yn Nghymru. Fis Chwefror cafodd Stuart Keyte ei ethol fel cynghorydd cyntaf y blaid yng Nghymru, ac mae’r arolwg barn diweddaraf yn rhagweld y bydd y blaid yn ennill 23% o’r bleidlais yn etholiad 2026 - yr un ffigwr â’r Blaid Lafur. 

Image
Oliver Higgins gyda’i fam Emma a Siôn Jenkins, gohebydd Y Byd ar Bedwar
Oliver Higgins gyda’i fam Emma a Siôn Jenkins, gohebydd Y Byd ar Bedwar

Mae Emma, mam Oliver, bellach yn cefnogi Reform hefyd, er iddi bleidleisio dros y Ceidwadwyr yn y gorffennol.

“Dwi’n hoffi beth maen nhw’n ddweud am am drethi, a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio -  mae hwnna yn bwysig iawn i fi. Dwi’n hoffi beth maen nhw’n ei ddweud am yr NHS hefyd - mae nhw’n bynciau mae pawb ‘di siarad am am flynyddoedd, ond does neb ‘di ‘neud rhywbeth. Dyma’r amser nawr i blaid newydd gael y cyfle. 

Mae gan Reform UK bron i 400,000 o ddilynwyr ar Tiktok - mwy na’r un blaid wleidyddol arall yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl Oliver, mae hyn yn un o’r ffyrdd mae’r blaid yn llwyddo i gyrraedd pobl ifanc:

“Dyw pobl ifanc ddim yn gwylio’r newyddion traddodiadol. Ma’ nhw’n mynd ar lein i weld be’ maen nhw ishe, a be’ sy’n dod lan fel rhan o’r algorithm yw pethau gwleidyddol. Ma’ pob plaid yn gwneud hyn - y broblem yw, i bleidiau eraill, ni’n ‘neud e’n well. 

Nid Cymru yw’r unig wlad sydd wedi gweld twf ym mhoblogwrydd pleidiau asgell dde. Fel rhan o raglen Y Byd ar Bedwar, mae’r tîm yn ymweld â’r Almaen yn ystod etholiadau diweddar y wlad - lle enillodd plaid AfD (Alternative für Deutschland) 20.8% o’r bleidlais - nhw bellach yw ail blaid fwyaf Yr Almaen.

Image
Digwyddiad AfD yn Erfurt
Digwyddiad AfD yn Erfurt

Cafodd AfD ei sefydlu yn 2013 fel plaid oedd yn gwrthwynebu polisïau’r Undeb Ewropeaidd. Un o brif bolisïau’r blaid yw ail-fudo, sef anfon mewnfudwr nôl i’w gwledydd gwreiddiol.

Image
Cai Phillips, myfyriwr sy’n byw yn Leipzig
Cai Phillips, myfyriwr sy’n byw yn Leipzig

Mae Cai Phillips o Gaerfyrddin yn fyfyriwr Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Leipzig:

“Dwi’n meddwl bod y sefyllfa’n bryderus iawn. Dwi’n gallu gweld bod pobl falle’n fwy cyffroddus i ddweud pethau sy’n fwy asgell-dde a, falle, yn fwy hilliol. Fi ‘di gweld pobl yn dweud pethau hiliol ar y strydoedd. Mae’n bryderus iawn i fi fod pethe’n cael eu normaleiddio oherwydd y gwleidyddion.

Mae 21% o bleidleiswyr 18-24 oed yn Yr Almaen yn cefnogi AfD, a 27% yn cefnogi Die Linke, y blaid sosialaidd ar y chwith. 

“Mae’r bobl sy’n pleidleisio i’r AfD yn bobl dosbarth gweithiol, a dwi’n gweld hynny yn y cymoedd yng Nghymru - bod pobl wedi dechrau troi i Reform - ac ma’ hynny’n bryderus iawn, oherwydd ma’r ffordd ma’ AfD, sef plaid boblyddol, yn ennill pleidleisiau - ma’ nhw’n cael pobl i bleidleisio amdanyn nhw oherwydd ma’ pobl yn becso am gostau byw ac ma’ nhw eisiau cael rhywbeth gwahanol - dydyn nhw ddim eisiau pleidleisio am y main stream.”

Image
Stefan Möller, gwleidydd AfD
Stefan Möller, gwleidydd AfD

Fis Chwefror, fe wnaeth dau aelod o AfD oedd wedi cael eu gwahardd am wneud sylwadau yn ymwneud â’r Natsïaid, ailymuno â’r blaid. Mae Stefan Moller, gwleidydd o fewn yr AfD, yn gwadu’r cyhuddiadau bod gan y blaid dueddiadau Natsïaidd:

“Does gan AfD ddim byd yn gyffredin gyda sosialaeth genedlaethol hanesyddol. Does gennyn ni ddim polisi tramor ymosodol, i’r gwrthwyneb, rydyn ni eisiau heddwch gyda’n cyd-wledydd Ewropeaidd, a Rwsia. 

"Does gennyn ni ddim, chwaith, fwriad i wared ar unrhyw ran o gymdeithas, a does dim gwrthsemitiaeth yma  - yn y gymdeithas yma, mae hynny’n dod o rywle arall. Os rhywbeth, rydyn ni’n feirniadol o’r pethau yma, felly does gennyn ni ddim byd i’w wneud â Natsïaeth a ffasgaeth. 

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Troi i’r Dde? Nos Lun 10 Mawrth am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.