Cynghorydd Reform cyntaf wedi ei ethol yng Nghymru
Mae’r cynghorydd Reform cyntaf yng Nghymru wedi ei ethol i Gyngor Torfaen.
Stuart Keyte ydi’r cynghorydd Reform cyntaf i gael ei ethol yng Nghymru, a hynny’n dilyn ymddiswyddiad cynghorydd Llafur, Toniann Phillips.
Enillodd isetholiad Trefddyn a Phenygarn gan guro'r ymgeisydd Llafur o bron i 200 o bleidleisiau.
Mae Llafur yn cadw rheolaeth ar y cyngor, gan fod ganddi fwyafrif o 12 o hyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK ei fod yn "fuddugoliaeth fawr" i'r blaid wrth iddyn nhw baratoi at etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
“Mae pobl eisiau newid gwirioneddol, ac mae Reform UK yn profi ar lawr gwlad mai ni yw'r dewis arall” meddai.
“Gyda phob buddugoliaeth, rydym yn dangos bod ein neges yn glir y byddwn yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru."
Disgrifiodd Stuart Keyte gymuned Trefddyn a Phenygarn fel “cymuned gref yn llawn o bobl dda”.
“Ond fel cymaint o ar draws cymoedd De Cymru, rydym wedi cael ein siomi ers llawer rhy hir gan lywodraeth Lafur blinedig ac allan o gysylltiad,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Arweinydd Grŵp Reform UK yn Nhorfaen: “Mae Stuart wedi profi ei hun i bobol Trefddyn a Phenygarn, ac mae’r canlyniad yn adlewyrchu hynny.”
“Fel Arweinydd Grŵp Reform UK yn Nhorfaen, mae’n anrhydedd mawr croesawu ein cynghorydd newydd”.
Llun: Cyfrif X Cyngor Torfaen