Dirwy o £1000 i gefnogwyr pêl-droed heb docyn yn y dyfodol?
Fe allai cefnogwyr pêl-droed sydd yn gwylio gemau heb docyn wynebu dirwy o £1,000 yn y dyfodol - ac fe all hyn gynnwys cefnogwyr y JD Cymru Premier.
Mae aelodau seneddol yn San Steffan wedi cefnogi cynnig i'w gwneud yn drosedd i unrhyw un sydd yn gwylio gemau heb docyn yn y pum haen uchaf o bêl-droed ym Mhrydain.
Symudodd y 'Mesur Mynediad Heb Ganiatâd i Gemau Pêl-droed' gam yn nes at ddod yn gyfraith ddydd Gwener ar ôl i ASau bleidleisio i roi ail ddarlleniad iddo heb ddadl.
Yn ôl dogfen gan y Swyddfa Gartref, “mae gwthio i mewn a mathau eraill o fynediad heb awdurdod (gan gynnwys ymgais i fynd i mewn) yn achosi problemau trefn gyhoeddus a diogelwch ar ddiwrnod gêm mewn stadia ac mae’n dueddol o ddigwydd yn y gemau haen uchaf sydd wedi’u gwerthu allan, a oedd yn cynnwys gemau Ewro 2020 yn Stadiwm Wembley”.
Byddai dirwyon am fynediad heb docyn i gemau pêl-droed yn berthnasol pan fyddai o leiaf un tîm yn y pum haen uchaf o gystadleuaeth pêl-droed domestig – gan gynnwys yr Uwch Gynghrair a phencampwriaeth yr EFL – Uwch Gynghrair y Merched a Phencampwriaeth y Merched, neu Uwch Gynghrair Cymru i ddynion.
Byddent hefyd yn berthnasol pan fyddai o leiaf un tîm yn cynrychioli gwlad neu diriogaeth.
Cyflwynodd Linsey Farnsworth, AS Llafur Amber Valley, y cynnig. Dywedodd: “Ar hyn o bryd, mae pobl sydd wedi cael mynediad i gemau heb awdurdod yn debygol o gael eu taflu allan heb unrhyw ôl-effeithiau cyfreithiol, tra bod pobl sy’n cael eu canfod yn ceisio mynediad fel arfer yn cael eu symud ymlaen ac yn aml yn gwneud sawl ymgais i gael mynediad.”
Ychwanegodd y byddai’r rhai sy’n torri’r rheolau yn wynebu dirwy o £1,000. Byddai llysoedd hefyd yn gallu rhoi gorchymyn gwahardd pêl-droed i droseddwyr am gyfnod oni bai eu bod yn credu “bod yna amgylchiadau penodol a fyddai’n ei gwneud yn anghyfiawn o dan yr holl amgylchiadau i wneud hynny”.
(Llun: PA)