Ymgyrch i greu gardd goffa er cof am athrawes ifanc o Gaerdydd
Mae ymgyrch codi arian wedi ei sefydlu er mwyn creu gardd arbennig er cof am athrawes ifanc o Gaerdydd a fu farw’n “annisgwyl.”
Bu farw Emily Rose Browning, oedd yn 24 oed, yn sydyn ym mis Rhagfyr y llynedd.
Fe raddiodd Ms Browning o Brifysgol Caerdydd yn 2021 gyda gradd yn Nhroseddeg, ac eto yn 2022 gyda gradd ôl-raddedig mewn Seicoleg cyn iddi hyfforddi fel athrawes ysgol gynradd.
Roedd yn “athrawes annwyl” yn Ysgol Gynradd Gladstone yng Nghaerdydd, meddai’r Brif Athrawes Ms Paula Shipton-Jones, mewn teyrnged iddi.
“Mae ei charedigrwydd, angerdd ac ymrwymiad wedi cael effaith hirdymor ar bob plentyn, cyd-weithiwr a rhiant a gafodd yr anrhydedd o’i hadnabod hi.”
Mae ymgyrch bellach wedi cael ei sefydlu er mwyn codi arian tuag at sefydlu gardd a fydd yn cael ei hadeiladu ar dir yr ysgol.
“Bydd yr ardd yn ofod… ac yn rhywle i blant ddysgu yn yr awyr agored gan brofi heddwch ac ysbrydoliaeth.
“Fe fydd yn adlewyrchiad o werthoedd Emily oedd yn meithrin chwilfrydedd, creadigrwydd a lles pob dysgwr,” meddai.
Mae dros £18,000 wedi ei godi ar dudalen Go Fund Me hyd yma.
Fe fydd yr arian sy’n cael ei gasglu yn mynd tuag at ddylunio ac adeiladu’r ardd a fydd yn cynnwys blodau, ffrwythau a llysiau, llefydd i eistedd a mannau penodol i sicrhau ei fod yn amgylchedd cynhwysol.
“Gyda’n gilydd, fe allwn ni greu rhywle sydd yn ymgorffori’r cynhesrwydd a thosturi yr oedd Emily yn ei rhannu gyda ni bob dydd,” ychwanegodd Ms Shipton-Jones.