Caerdydd: Cwsmer yn ffilmio lleidr yn bygwth gweithiwr siop gyda chyllell
Caerdydd: Cwsmer yn ffilmio lleidr yn bygwth gweithiwr siop gyda chyllell
Mae dyn o Gaerdydd gafodd ei ffilmio gan gwsmer yn dwyn arian o archfarchnad tra'n bygwth gweithiwr y siop gyda chyllell wedi ei garcharu am bum mlynedd.
Aeth Leon Carpin, 34 oed o Bontprennau, i mewn i siop Lidl yn Caxton Place, Pentwyn, amser cinio ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd, gyda'i wyneb wedi'i orchuddio gan sgarff.
Roedd staff yn ei wylio gan ei fod yn ymddwyn yn rhyfedd yn y siop a oedd yn llawn cwsmeriaid.
Ychydig funudau’n ddiweddarach, sibrydodd ‘agor y til’ i glust un gweithiwr wrth afael mewn cyllell.
Fe wnaeth yr heddlu ei adnabod ar ôl gwylio fideo'r cwsmer ohono'n dwyn £250 o'r til.
Daethant o hyd iddo yn cuddio mewn atig tŷ ychydig funudau i ffwrdd o'r siop gydag arian parod a chrac cocên yn ei feddiant.
Cafodd Carpin ei gyhuddo o ladrata, bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus a bod â crac cocên yn ei feddiant.
Aeth ymlaen i bledio’n euog i bob cyhuddiad ac ar Chwefror 28 cafodd ei garcharu am bum mlynedd a chwe mis yn Llys y Goron Caerdydd.