Caerffili: Arestio dyn wedi i feiciwr modur 22 oed farw mewn damwain
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad ar Heol Aneurin, Penyrheol ar 28 Chwefror.
Bu farw dyn 22 oed oedd yn gyrru'r beic modur yn y digwyddiad - oedd yn wrthdrawiad rhwng ei feic a fan wersylla.
Nid oedd y fan yn teithio ar y ffordd ar y pryd gan ei bod wedi ei pharcio cyn y gwrthdrawiad.
Mae teulu'r dyn a fu farw wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae dyn 30 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac mae bellach wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu luniau camera dashcam neu deledu cylch cyfyng yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.
Mae'n nhw'n gofyn yn benodol am wybodaeth am gar Vauxhall Adam coch i gysylltu gyda nhw gan eu bod yn credu ei fod yn yr ardal ar y pryd.