
Llygredd yn achosi afon yn y de i newid ei lliw

Mae pryder ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros lefelau llygredd yn Afon Ogwr ger Gaeau Newbridge yn y dref wedi i’r dŵr newid lliw.
Mae lluniau gan drigolion lleol yn dangos fod lliw’r afon wedi troi’n llaethog.

‘Gwael’
Dywedodd un sy’n byw yn lleol fod yr afon “yn edrych yn wael iawn.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i’r digwyddiad ac yn credu mai paent yn llifo i’r afon yw achos y llygredd.
Daw’r newyddion yn fuan ar ôl i gwmni adeiladu gael dirwy a gorchymyn i dalu costau o fwy na £10,000 ym mis Ionawr 2025, am lygru Afon Ogwr.
Mae Afon Ogwr yn llifo tuag at Aberogwr, sy’n ardal nofio boblogaidd ymysg pobl leol.
Mae ansawdd y dŵr wedi cael ei asesu fel ‘gwael’ yno dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Prif lun: Robert Harris / ITV Cymru