Ynys Môn: Cyngor tref Llangefni wedi methu â chyflwyno cyfrifon
Mae cyngor tref ar Ynys Môn wedi methu â chyflwyno ei chyfrifon am flwyddyn, yn ôl corff gwarchod gwariant Cymru.
Dywedodd adroddiad gan Archwilio Cymru fod Cyngor Tref Llangefni wedi methu â chyflwyno unrhyw gyfrifon ar gyfer 2021-22 i’w harchwilio.
Roedd y cyngor hefyd wedi methu â darparu cyfrifon ar gyfer y flwyddyn 2020-21, 2022-23 a 2023-24 "yn amserol", meddai.
Yn ôl cyfarwyddwr Archwilio Cymru, Richard Harries, roedd clerc Cyngor Tref Llangefni, Rhys Parry, wedi prynu cerbyd gwerth £21,000 "heb gymeradwyaeth y cyngor" ac ni gyflwynodd anfondeb am y pryniant.
Cafodd hefyd "swm mawr o oramser" heb "unrhyw dystiolaeth bod y taliadau wedi’u cymeradwyo gan y cyngor", a gwerthodd fan "heb gymeradwyaeth y cyngor".
Mae Archwilio Cymru yn adolygu cyfrifon cynghorau tref yn fanwl bob tair blynedd.
Mewn neges i’r cyngor tref ar 16 Ionawr, dywedodd Archwilio Cymru eu bod wedi cau’r archwiliadau ar gyfer 2021-22, 2022-23 a 2023-24 – ond bod trefniadau’r cyngor yn "anfoddhaol".
Dywedodd Maer Cyngor Tref Llangefni, Terry Jones, eu bod yn "cymryd hyn o ddifrif".
"Fel cadeirydd Cyngor Tref Llangefni ers 13 Mai 2024, hoffwn eich hysbysu y byddwn yn ystyried cynnwys yr archwiliad, ac rydym yn cymryd hyn o ddifrif."
Ychwanegodd Mr Jones y byddai’r cyngor yn darparu ymateb llawn i’r pryderon a godwyd gan Archwilio Cymru "o fewn y 28 diwrnod nesaf".
Cysylltwyd hefyd â'r clerc, Rhys Parry, am sylw.
'Gofynnol'
Dywedodd Archwilio Cymru y byddai’n "adolygu’r sefyllfa eto" ar gyfer cyfrifon 2024-25.
Mae'r corff hefyd yn "ystyried" cyhoeddi adroddiad "er budd y cyhoedd" pe na bai'r problemau'n cael sylw.
Dywedodd llefarydd ar ran Archwilio Cymru: "Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus Cymru 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor wneud ei gyfrifon hyd at 31 Mawrth, bob blwyddyn a chyflwyno’r cyfrifon i’w harchwilio gan yr Archwilydd Cyffredinol.
"Nid oeddem yn gallu nodi unrhyw dystiolaeth bod y cyngor wedi paratoi cyfrifon ar gyfer 2021-22 ac ni chyflwynwyd unrhyw beth i’w archwilio.
"Rydym wedi cwblhau ac adrodd ar archwiliadau Cyngor Tref Llangefni ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2021-22 i 2023-24. Rydym wedi nodi ein casgliadau yn ein hadroddiad archwilio a'r farn a gyhoeddwyd ar gyfer pob un o'r blynyddoedd hyn."
Ychwanegodd: "Mae’r adroddiadau a’r safbwyntiau wedi’u hatodi i ffurflenni blynyddol y Cyngor ac mae’n ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi’r cyfrifon archwiliedig ynghyd â’r farn archwilio.
"Does dim adroddiad ar wahân i’r cyngor ar gyfer y blynyddoedd hyn."