Cyhuddo cyn aelod o staff Heddlu Dyfed Powys o nifer o droseddau
Mae cyn aelod o staff Heddlu Dyfed-Powys wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o ymddygiad o reoli a gorfodaeth, trosedd diogelu data a chamddefnyddio cyfrifiaduron.
Cafodd Russell Hasler, oedd yn swyddog teledu cylch cyfyng gyda'r llu, ei arestio yn 2023 gan swyddogion yr Adran Safonau Proffesiynol a oedd yn ymchwilio i’r troseddau honedig.
Roedd Mr Hasler wedi bod yn gweithio fel swyddog teledu cylch cyfyng ers 2019, ond ers hynny mae wedi ymddiswyddo o’r llu.
Digwyddodd y troseddu honedig rhwng 2020 a 2022 meddai'r heddlu.
Yn dilyn y gwrandawiad ddydd Mercher, cafodd Mr Hasler ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 4 Ebrill.
Llun: Google