Newyddion S4C

Angen 'parchu a diogelu' Chwarel Dinorwig wedi honiadau bod difrod wedi'i wneud i'r safle

05/03/2025

Angen 'parchu a diogelu' Chwarel Dinorwig wedi honiadau bod difrod wedi'i wneud i'r safle

Mae'n anodd dychmygu heddiw ond ar un adeg roedd miloedd yn cael eu cyflogi yn chwareli'r gogledd.

Mae diddordeb yn yr hen waith yn fyw ac yn iach gyda phobl yn heidio at olion safle Dinorwig ger Llanberis.

Mae'n golygu bod arian yn dod i'r ardal ond dydy pawb ddim yn hapus.

Yn ôl rhai perthnasau i'r hen chwarelwyr yma mae 'na ddifrod wedi'i wneud i wal y caban lle oedden nhw'n cwrdd.

"Nes i ddod i gael look yn y caban, roedd 'na gotiau'r chwarelwyr yno ac esgidiau ac ati.

"Ro'n nhw dal ar y wal yn y cytiau ac maen nhw 'di cael eu llosgi. Roedd 'na sgwennu bendigedig gan yr hen hogia ond prin bod chdi'n medru gweld hwnna rwan efo'r graffiti.

"Mae'n hyll, mae'n ofnadwy."

“Dw i'n hapus bod pobl yn cael gweld sut roedd chwarelwyr yn gweithio ond parchu'r lle ydy'r unig beth sy'n poeni fi.

"Dydy neb yn parchu fo."

Mae nifer o'r chwareli mewn ardaloedd digon anghysbell.

Mae technoleg a gwefannau cymdeithasol yn golygu bod llygaid y byd ar lefydd fel hyn.

Does fawr nunlle yn ddirgel bellach sy'n denu mwy o ymwelwyr.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae'n bwysig cofio bod llefydd fel Chwarel Dinorwig yn rhan o'r ardal sydd wedi derbyn dynodiad Safle Treftadaeth y Byd UNESCO fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu am y chwareli a'r cymunedau ddatblygodd o gwmpas yr ardal.

"Hwyrach bod petha'n mynd yn waeth gan fod mwy yn mynd i ardaloedd arbennig.

"Mae pobl wedi gweld nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n anodd i'r awdurdodau a'r mudiadau mawr reoli."

Mae Chwarel Dinorwig wedi cau ers dros 50 mlynedd ond mae diddordeb yn y rhan bwysig yma o hanes Cymru yn fyw.

Parchu a diogelu fan hyn i'r dyfodol ydy'r alwad yma yng Ngwynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.