Syr Keir Starmer wedi annerch ASau yn dilyn trafodaethau ar ddyfodol Wcráin
04/03/2025
Syr Keir Starmer wedi annerch ASau yn dilyn trafodaethau ar ddyfodol Wcráin
Yn unedig ag Wcrain, 18 o arweinwyr byd yn cadw cefn Arlywydd Zelenskyy.
Ond fydd angen mwy nag ewyllys da yn wyneb nerth Rwsia ac amheuon America.
Wedi penwythnos o ddadlau ar y llwyfan rhyngwladol y pnawn ma, roedd Keir Starmer nol yn San Steffan.
Nod Keir Starmer yw bod yn bont yn y trafod rhwng Ewrop a'r UDA er mwyn pontio'r cytundeb heddwch ag Wcrain.
Ac roedd ei neges y prynhawn 'ma yn glir bod heddwch Wcrain yn bwysig i bawb.
"Mr Speaker, it is right that Europe do the heavy lifting to support peace on our continent.
"To succeed this effort must have strong US backing."
"If you didn't have our military equipment..."
Ond mae gofyn i'r Unol Daleithiau addo cefnogaeth milwrol i gytundeb heddwch dipyn yn anoddach nawr wedi'r ffrae nos Wener rhwng yr Arlywydd Trump a Zelenskyy.
"It's hard to do business like this."
Mae Donald Trump wedi honni mewn neges ar-lein nad yw'r Arlywydd Zelenskyy moyn gweld heddwch o gwbl.
"Mae adroddiadau yn yr wasg bod Trump yn cwrdd a chynghorwyr i drafod y sefyllfa gydag Wcrain heddiw a bod atal cymorth ymhlith yr opsiynau sy'n cael eu trafod."
Heddiw ro'dd Vlodomyr Zelenskyy nol yn Wcrain, nol i realiti'r rhyfel wrth i Rwsia dargedu dinas Kharkiv dros nos.
Mae cefnogaeth eang i Zelenskyy am ei safiad a'i alwad am heddwch i ddiogelu dyfodol Wcrain.
"My partner has been on the front lines from day one in this war.
"I want nothing more than for him to come home.
"There's one thing that scares me more.
"My son is 12 years old, if the war erupts again in a few years he will be old enough to serve.
"None of us want our children to inherit this war."
"Hanfod y cyfarfod a'r datganiad a'r symbolaeth o gael pawb ynghyd yw trio dangos i'r Unol Daleithiau bod Ewrop yn fodlon cymryd mwy o'r baich ac yn fodlon
sefyll i fyny dros Wcrain gyda'r gobaith o dynnu'r Unol Daleithiau nol i fewn a dangos bod 'na ffordd ymlaen hebddynt os oes rhaid."
Yn gefndir i'r cyfan, y rhyfel sy'n parhau ar dir Wcrain a'r ymosodiadau gan Rwsia yn wyneb y gorllewin rhanedig a Thy Gwyn sy'n closio at y Kremlin.