Newyddion S4C

Yr ‘achos gwaethaf’: Cyn heddwas yn disgrifio cyflafan gwesty Penmaenmawr

05/03/2025
Derek Hough

Mae cyn heddwas wedi siarad am y tro cyntaf am yr hyn a welodd pan gafodd pedwar o bobl eu llofruddio mewn gwesty ym Mhenmaenawr yng nghanol y 70au.

Fe gafodd y Red Gables ei roi ar dân ac fe ddaeth y gwasanaethau brys o hyd i bump o gyrff yno ym mis Medi 1976. 

Roedd pedwar o bobl wedi eu saethu yn farw tra bod y llofrudd, Neil Rutherford, wedyn wedi saethu ei hun. 

Yn y rhaglen ar S4C, Troseddau Cymru mae’r cyflwynydd, Siân Lloyd yn siarad gyda Derek Hough am yr hyn a welodd y noson honno. 

“Fel o’n i yn mynd am y Red Gables o’n i yn gallu gweld mwg trwchus yn dod o’r to… o’n i yn gallu gweld bod y drws wedi cau, gweld fflamau. Ac wedyn ar y radio i’r operations room a gofyn iddyn nhw yrru fire engine, ambiwlans.”

Fe ddaeth o hyd i’r corff cyntaf, Alistair McIntyre ar lwybr yng nghefn yr adeilad. Ar ôl mynd i mewn i’r gwesty fe ddaeth o hyd i gyrff eraill. Roedd Derek hefyd yn bryderus bod y llofrudd yn dal yn fyw yn y gwesty.

“Oedd ‘na fflamau, sŵn difrifol, gwres, mwg trwchus ac o’n i methu anadlu. Odd rhaid i fi fynd lawr at y llawr i gael bach o awyr. Es i lawr ar fy ngliniau. Mynd am ddrws y gegin ac fel o’n i yn mynd am ddrws y gegin o’n i yn deall mod i yn cropian mewn gwaed rhywun.”

Image
Penmaenmawr
Derek Hough yn ei swydd
Image
Penmaenmawr

Fe ddaeth y cwest i’r casgliad mai Neil Rutherford oedd wedi lladd y pedwar oedd yn y Red Gables sef Linda Simcox, gwraig weddw oedd yn rhedeg y gwesty, ei merch Lorna, gŵr Lorna, Alistair McIntyre a ffrind i’r teulu, John Green. 

Roedd Neil Rutherford yn gyn is-gomander yn y llynges. Roedd wedi ymladd yn yr Ail Ryfel Byd ac yna rhyfel Korea. 

Ar ôl iddo adael y llynges mi gafodd gyfnod heriol. Mi chwalodd ei briodas ac mi ddaeth y busnes roedd wedi ei gael gan ei dad hefyd i ben. Ond yna cafodd waith fel garddwr a chynnal gwaith atgyweirio yng ngwesty’r Red Gables. Gwraig weddw, Linda Simcox oedd yn rhedeg y gwesty. Y si yn lleol oedd bod Rutherford a Linda Simcox mewn perthynas gyda’i gilydd. 

Ond bum niwrnod cyn y gyflafan fe fuodd yna ffrae fawr rhwng y ddau. Y sôn oedd fod Neil Rutherford wedi ei bygwth hi a’i theulu. Bu’n rhaid i Rutherford, oedd hefyd yn byw yn y gwesty, adael.

Image
Penmaenmawr

Dyw hi dal ddim yn glir pam y penderfynodd Rutherford ladd y diwrnod hwnnw. Yn ôl y Criminolegydd Dylan Rhys Jones, roedd yna sawl ffactor. 

“Mi fyswn i yn dweud bod ffactorau fel alcohol yn sicr, y siom o’r berthynas, eiddigedd o rhywun arall, y ffactorau yna ‘da ni yn galw rwan yn PTSD, bod heini i gyd yn cyfuno ac yn dod i sefyllfa lle mae na storm berffaith, ffactorau amrywiol i gyd yn pentyrru ar ei gilydd ac yn cronni i mewn i un digwyddiad fel ddigwyddodd yng Ngwesty’r Red Gables.”

Image
Penmaenmawr

I Derek Hough roedd yn rhaid cario ymlaen gyda’i waith. Doedd dim cymorth arbenigol ar gael i heddweision fel sydd yn bodoli erbyn hyn.

“Darfod fy shifft y diwrnod hynny. Odd rhaid i fi fynd ar shifft y diwrnod wedyn. Pobl yn gofyn beth oedd 'di digwydd yna. Fyswn i yn newid y subject neu cerdded i ffwrdd. O’n i yn cadw i fy hun.”

Mae’n dweud mai dyma’r “achos gwaethaf” iddo orfod delio ag o yn ystod ei 30 mlynedd o yrfa. 

“Nes i ffindio ffordd i rhoi y memories, casglu nhw i gyd i fyny yn fy meddwl, rhoi nhw mewn dror fach, cau’r dror a deud paid ag agor o byth.”

Bydd Troseddau Cymru gyda Siân Lloyd i'w gweld nos Fercher 5 Mawrth am 21:00 ar S4C ac ar S4C Clic ac iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.