Rhoddwr gwaed eithriadol wedi marw yn 88 oed
Mae dyn o Awstralia a roddodd waed 1,173 o weithiau wedi marw.
Roedd James Harrison yn 88 oed.
Yn cael ei adnabod fel y dyn â'r 'Fraich Aur', fe helpodd gwaed Harrison i arbed tua 2.4 miliwn o fywydau babanod, dros gyfnod o 60 mlynedd.
Bu farw yn ei gwsg mewn cartref nyrsio yn nhalaith De Cymru Newydd, yn ôl ei deulu.
Derbyniodd James Harrison 13 uned o waed pan oedd yn 14 oed, wedi llawdriniaeth ar ei ysgyfaint.
Er ei fod ofn nodwyddau, dechreuodd roi gwaed pan oedd yn 18 oed, a gwneud hynny bob pythefnos tan iddo gyrraedd 81 oed.
Does dim modd rhoi gwaed yn Awstralia wedi'r oedran hwnnw.
Roedd James Harrison hefyd yn ymgyrchydd a oedd yn annog eraill i roi gwaed, ac roedd yn cynnal sgyrsiau yn rheolaidd.
Dywedodd gwasanaeth gwaed y Groes Goch yn Awstralia ei fod yn “un o roddwyr gwaed mwyaf toreithiog y byd.”
Yn 2005, hawliodd ei le yn y ‘Guinness World Records’ oherwydd iddo roi gymaint o waed a phlasma. Roedd y record honno ganddo tan 2022.