Newyddion S4C

Caryl Parry Jones: 'Na i byth feirniadu neb am fod yn ordew'

04/03/2025
Caryl Parry Jones
Caryl Parry Jones gan Mefus Photography

"Na i byth feirniadu neb am fod yn ordew."

Dyna eiriau'r gantores a chyflwynydd Caryl Parry Jones sydd wedi siarad yn agored am fyw mewn corff mwy.

Ar ôl rhannu ei phrofiad yn y gyfrol Fel yr Wyt, mae Caryl, 66 oed, yn annog pobl i newid y ffordd maen nhw'n gweld gordewdra.

"Na i byth feirniadu neb am fod yn ordew - mae’n blydi anodd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dw i'n meddwl mae 'na wastad reswm pam bod pobl yn ordew, a dydi o ddim jyst yn bwyta."

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2024, mae 62% o oedolion yng Nghymru dros eu pwysau gyda 25% yn ordew.

Mae cyfraddau gordewdra yn llawer uwch mewn cymunedau difreintiedig, meddai'r arolwg.

'Ddim yn nabod fy hun'

Fel plentyn "tenau" a "gorbryderus", dywedodd Caryl nad oedd hi wedi gorfod poeni am ei hedrychiad.

Fe newidiodd hynny yn ei thridegau, meddai, wedi iddi ddechrau magu pwysau ar ôl cael pedwar o blant.

"Nesh i neud real ymdrech i golli dwy stôn a hanner – oeddwn i’n mynd i’r gym yn aml, o'n i’n watcho be' o'n i’n fyta ac o'n i lle o'n i isho bod," meddai.

"Oeddwn i'n cael prynu dillad size 10, oeddwn i’n teimlo’n ffantastic."

Ond yna fe gafodd ddiagnosis o'r afiechyd genetig pemphigus vulgaris, clefyd sy’n toddi’r hyn sy’n cadw celloedd y croen at ei gilydd, gan achosi pothelli mawr.

Er mwyn trin yr afiechyd, roedd yn rhaid iddi gymryd y meddyginiaeth steroids am bedair blynedd.

"Mae steroids yn enwog am roi pwysau ar bobl a nath 'na bedair stôn fynd 'mlaen gen i," meddai.

"A ti ddim yn jyst rhoi pwysau 'mlaen, ond ti hefyd yn cael y moon face 'ma a nesh i golli fy ngwallt – a wedyn gesh i'r menopôs.

"O'n i’n gweld lluniau o’n hun a ddim yn 'nabod fy hun jyst. A dim jyst hynna ond teimlo allan o wynt, diffyg traul, dim egni. Popeth 'di mynd efo fo."

Image
Caryl Parry Jones gan Mefus Photography
Mae Caryl wrth ei bodd yn pobi a choginio (Llun: Mefus Photography)

Ychwanegodd Caryl ei bod wedi dechrau osgoi mynd i ddigwyddiadau o achos ei hedrychiad.

"Oeddwn i’n gwneud esgusodion i beidio mynd i llefydd achos o'n i’n teimlo bob tro o'n i’n gweld rhywun roedd rhaid i fi esbonio yn syth, 'O, wel, dw i 'di bod yn sâl a dyma pam dw i'n edrych fel hyn'," meddai.

"Oeddwn i bron a bod yn ymddiheuro am y ffordd oeddwn i’n edrych, oedd yn ridiculous rili.

"Doedd o ddim yn gyfnod neis o gwbl, ond fyswn i wedi cymryd arsenic os fysa fo 'di neud fi’n well achos oedd o’n gyflwr mor boenus."

'Angen mwy o gydymdeimlad'

Mae Caryl bellach wedi gwella, ond mae hi'n dal i boeni am ei phwysau.

"Mae 'na gymaint o stigma yn erbyn gordewdra, sy’n anhwylder bwyta," meddai. 

"Mae 'na lot mwy o gydymdeimlad tuag at pobl sy'n anorecsic neu bulimic, ac wrth gwrs dyle bo' na fwy o adnodde a phethau ar gael, yn enwedig yn Gymraeg, ar gyfer anhwylderau fel 'na – ond mae’r ochr arall yr un mor broblematic.

"Mae pobl jyst yn gweld o fel diogi a bod yn farus ond mae’n ddyfnach na hynna."

Yn y dyfodol mae hi'n gobeithio y bydd pobl yn newid y ffordd maen nhw'n gweld gordewdra.

"Mae bwyta’n iach yn fusnes drud ac mae’n dân o dan fy nghroen i bod cadw’n iach yn fusnes sy' ddim yn hawdd i bawb," meddai.

"Heblaw am y busnes yna, mae angen cael dipyn bach o gydymdeimlad efo pobl sy’n ordew a sut allen nhw gael ei helpu achos mae o’n arwain at lot o brobleme iechyd – dw i'n gwybod bod fy mhwysau i wedi stopio fi rhag gwneud pethe, ac mae’n horrible."

A hithau bellach yn nain i ddau o wyrion, ei bwriad yw "bod yn iach yn hytrach na thenau".

"Iechyd ydi'r priority heb unrhyw amheuaeth achos mae’r bechgyn bach 'ma yn golygu popeth," meddai.

"Dw i'n caru nhw mewn ffordd o'n i byth yn meddwl oedd yn bosibl.

"Dw i isho bod o gwmpas iddyn nhw – ac i’m mhlant i gyd."

Bydd lansiad y gyfrol Fel yr Wyt gan Sebra ddydd Gwener 7 Mawrth

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.