Newyddion S4C

Y canwr Geraint Jarman wedi marw'n 74 oed

03/03/2025
Geraint Jarman

Mae'r canwr, bardd a'r cynhyrchydd teledu Geraint Jarman wedi marw yn 74 oed.

Yn un o ffigyrau mwyaf eiconig cerddoriaeth fodern Gymraeg, cafodd ei eni yn Rhuthun yn 1950, cyn symud i fyw i Gaerdydd yn bedair oed.

Roedd ei fagwraeth yn ardal Glan yr Afon yn y brifddinas yn ganolog i'w ganeuon a'i farddoniaeth drwy gydol ei yrfa.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Bryn Taf ac yna yn Ysgol Cathays.

Dywedodd mewn un cyfweliad ei fod wedi cymryd amser i ymgartrefu yng Nghaerdydd pan yn ifanc: “Nath hi gymryd amser [i wneud ffrindiau] achos oedd e fel jyngl i fi… odd na sawl ffeit.

"I bobl Caerdydd I was a Welshie ac i bobl Cymraeg roeddwn i'n berson Caerdydd - felly doeddech chi byth yn gallu ennill."

Image
Geraint Jarman

Bara Menyn

Ar ddechrau ei yrfa, roedd Geraint Jarman yn aelod o’r Bara Menyn, ynghyd â Heather Jones a Meic Stevens. 

Ffurfiwyd y grŵp acwstig yn 1969, ond dim ond dwy EP gafodd eu rhyddhau. 

Dywedodd mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol yn 2006 ei fod wedi dysgu llawer o'i grefft gan Meic Stevens: “Ganddo fe mewn gwirionedd nes i ddysgu fframwaith caneuon a sut i 'sgrifennu – jyst trwy bod yn ei gwmni fe a gwylio fe.  

“Odd e’n gallu sgrifennu’n gyflym. Dim ond y geiriau, oedd angen help arno fe gyda’r geiriau a nes i gwrdd â lot o bobl dda trwyddo fe.”

Er mai byr oedd cyfnod Bara Menyn, roedd eu dylanwad ar weddill grwpiau’r cyfnod a thu hwnt yn fawr.

Y Cynganeddwyr

Daeth Geraint Jarman yn amlwg fel artist blaenllaw yn ystod 70au'r ganrif ddiwethaf gyda'i fand Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr.

Cyhoeddodd ei albwm unigol gyntaf, 'Gobaith Mawr y Ganrif' ar label Sain yn 1976.

Datblygodd ei sain unigryw ar recordiau diweddarach gan gynnwys 'Hen Wlad fy Nhadau', 'Tacsi i'r Tywyllwch' a 'Gwesty Cymru'.

Gyda'r gitarydd dawnus Titch Gwilym o Lwynypia, roedd y band yn gyfrifol am rai o ganeuon roc mwyaf eiconig y cyfnod.

"Roedd yn dipyn o daith i weddill y band hefyd, achos ddaru nhw ddarganfod Cymru hefo fi", meddai mewn un cyfweliad.

Ymysg rhai o ganeuon enwocaf Geraint Jarman oedd 'Ethiopia Newydd' a 'Methu dal y pwysau'.

Roedd reggae a dub yn ddylanwadau cryf ar ei gerddoriaeth drwy gydol ei yrfa.

Image
Cynganeddwyr

Roedd hefyd yn actor dawnus, gan serennu yng nghyfres Glas y Dorlan rhwng 1977 a 1979.

Ef hefyd oedd llais y cymeriad Superted yn y gyfres boblogaidd i blant yn ystod yr 80au.

Tu hwnt i'w yrfa gerddorol a barddonol ei hun, roedd ei ddylanwad ar grwpiau cerddordol y 90au yn fawr.

Roedd yn gyfrifol am gyd-gynhyrchu rhaglen deledu Fideo 9 - oedd yn cynnig llwyfan pwysig i nifer o grwpiau ifanc y dydd.

Dywedodd fod y cyfnod yn un cyffrous wrth i fandiau ifanc fel U-Thant, Ffa Coffi Pawb a Bob Delyn a'r Ebillion ddatblygu eu gyrfaoedd.

Ar gyfryngau cymdeithasol, mae'r cerddor a chanwr Ffa Coffi Pawb, Gruff Rhys wedi cyfeirio ato fel "athrylith." 

Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei fywyd, gan gynnwys 'Cerddi Alfred St' a 'Cerbyd Cydwybod'.

Enillodd wobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau Selar yn 2017.

Dywedodd trefnydd y gwobrau Owain Schiavone ar y pryd: "Does dim amheuaeth bod cyfraniad Jarman i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn un enfawr."

Mae ei deulu wedi gofyn am breifatrwyrdd yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.