Newyddion S4C

Lansio ymgyrch i ddenu merched i dreulio gwyliau yng Nghymru

02/03/2025
Menai / Elen Traitors

Mae ymgyrch wedi ei lansio i geisio denu merched i dreulio mwy o amser gwyliau yng Nghymru.

Dywedodd Croeso Cymru, fod 'gwyliau genethod’ ar gynnydd a bydd y “cynlluniau teithio i ferched â ffocws ar lesiant, antur ac amser aml-genhedlaeth ystyrlon am y tro cyntaf”.

Mae’r corff wedi lansio’r ymgyrch ar 2 Mawrth sef Dydd Santes Non, mam Dewi Sant.

Dywedodd Croeso Cymru fod " teithiau i grwpiau o ferched yn duedd teithio amlwg yn 2025". 

Mae Croeso Cymru wedi paratoi pedwar cynllun teithio i ferched sy’n cynnwys gweithgareddau fel neidio i faddonau gwymon, sawnas glan môr, disgos tawel a chlybiau llyfrau.

Dywedodd Croeso Cymru fod y teithiau yn rhan o'u hymgyrch ehangach sy’n gwahodd pobl i ‘deimlo’r hwyl’.

Lle delfrydol

Yn ôl Elen Wyn, oedd ar y gyfres boblogaidd The Traitors yn ddiweddar, Cymru “yw’r lle delfrydol am wyliau merched”.

“Er bod Dydd Gŵyl Dewi’n llawn ‘hwyl’ yng Nghymru, mae llai o bobl yn ymwybodol o arwyddocâd Dydd Santes Non sydd drannoeth,” meddai.

“Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn bwysig i mi - ar gyfer y meddwl, iechyd meddwl a’r corff.

“Mae gen i sawl grŵp o ffrindiau benywaidd sy’n mwynhau gwahanol fathau o wyliau, ac fel  chwaer ganol, rydw i a fy nwy chwaer yn cael modd i fyw wrth fynd i ffwrdd gyda’n gilydd neu fynd i gerdded ym mryniau godidog y gogledd neu ar hyd yr arfordir a’r traethau.

Dywedodd Siân Kilcoyne, cydawdur y llyfr poblogaidd Welsh Women on This Day: “Er taw stori lleian o’r 5ed ganrif yw stori Santes Non, mae’r materion ynddi’n dal i fod yn berthnasol dros ben i fenywod a merched yn 2025.

Mae poblogrwydd achlysuron â ffocws ar fenywod yng Nghymru ar gynnydd hefyd, gydag ultra-marathon mwyaf y byd i fenywod yn unig, She Ultra, yn digwydd ym Mhenrhyn Llŷn ym mis Ebrill, gan ddenu record o 1,800 o ferched o bedwar ban y byd.”

Llun: Croeso Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.