Newyddion S4C

Yr actores Marged Esli wedi marw yn 75 oed

Yr actores Marged Esli wedi marw yn 75 oed

Mae’r actores, cyflwynwraig a’r awdures Marged Esli wedi marw yn 75 oed.

Yn enedigol o Ynys Môn, roedd Marged Esli Charles-Williams yn adnabyddus am actio cymeriadau fel Nansi Furlong yn y gyfres opera sebon Pobol y Cwm a’r brif ran yn y ffilm Madam Wen ar S4C ym 1982. 

Er i Marged Esli bortreadu'r cymeriad yn y cwm tan 1989, fe ymddangosodd Nansi i godi miri unwaith eto o 2010 ymlaen.

Ymunodd Marged Esli â Chwmni Theatr Cymru ar ôl astudio yn y coleg ym Mangor, cyn treulio cyfnod yn Llundain ac yng Nghaerdydd. Cafodd sawl swydd yn cyflwyno rhaglenni plant fel Bilidowcar gyda Hywel Gwynfryn.

Roedd yn adnabyddus i lawer o blant Cymru fel y falwan swil, Dwmplen Malwoden yn y gyfres Caffi Sali Mali.

Bydd llawer yn cofio Marged Esli yn chwarae'r brif ran yn y ffilm Madam Wen yn 1982 ac fe actiodd mewn sawl cyfres gomedi, gan gynnwys Porc Peis Bach.

Y tu hwnt i’r byd actio a chyflwyno, roedd Marged Esli hefyd yn awdures, ac yn fwy diweddar yn un o awduron y gyfres Pengelli ar S4C.

Bydd yn cael ei chofio gan lawer ym Môn am ei gwaith fel athrawes uwchradd, ei gwaith gwirfoddol, ac fel un wnaeth ymroi ei bywyd yn llwyr i fyd y ddrama.

Llun: Entertainment.ie

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.