Neges yn y Gymraeg gan y Tywysog William i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Mae Tywysog Cymru wedi cyhoeddi neges yn y Gymraeg i ddathlu “pobl anhygoel” y wlad.
Dywedodd y Tywysog ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol Palas Kensington bod y diwrnod yn gyfle i “ddathlu popeth sy’n hudol am Gymru”.
Dywedodd: “Helo, heddiw ar Ddydd Gŵyl Dewi rydym yn dod at ein gilydd i ddathlu Cymru, ei hanes, ei diwylliant, a’i phobl anhygoel.
“O’i golygfeydd anhygoel i’w iaith mae Cymru yn parhau i ysbrydoli. Heddiw ry ni’n dathlu popeth sy’n hudol am Gymru.”
Fe wnaeth y Tywysog a Thywysoges Cymru ymweld â Phontypridd ddydd Mercher fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi .
Fe wnaeth y ddau baratoi pice ar y maen a chyfarfod pobl oedd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd diweddar yn y dref.
Inline Tweet: https://twitter.com/KensingtonRoyal/status/1895768176954314775