Newyddion S4C

Ymchwiliad llofruddiaeth: Teyrnged teulu i ddyn ‘llawn hwyl’

27/02/2025
Craig Richardson

Mae teulu dyn a gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref yn Wrecsam wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Craig Richardson, 37 oed, yn ei gartref ar stad Plas Madoc yn Acre-fair ddydd Sul, 23 Chwefror.

Mae ymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth Mr Richardson yn parhau. 

Mae Thomas Iveson, 30, o ardal Plas Madoc, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Dywedodd teulu Craig Richardson ei fod yn ddyn “llawn hwyl” ac y bydd “colled ar ei ôl am byth”.

“Roedd Craig yn fab, tad, brawd, ewythr, nai, cefnder, partner a ffrind cariadus i lawer ac roedden ni i gyd yn ei garu â'n holl galonnau,” medden nhw.

“Bydd pawb oedd yn adnabod Craig yn dweud fod ganddo’r galon fwyaf, y byddai’n gwneud unrhyw beth drosoch chi ac roedd yn llawn hwyl.

“Bydd colled ar ôl Craig am byth, ac yn ein calonnau am byth bythoedd.”

Ymchwiliad

Fe wnaeth Thomas Iveson ymddangos o flaen Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Iau, lle cafodd ei gadw yn y ddalfa.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Mae ail ddyn - dyn 32 oed o Wrecsam - a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

Mae teulu Mr Richardson yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.