Recriwtio 200 o nyrsys a meddygon o India i wasanaeth iechyd Cymru
Bydd 200 o nyrsys a meddygon o Kerala yn India yn cael eu recriwtio i weithio yn GIG Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod recriwtio gweithwyr gofal iechyd o'r dalaith yn ne-orllewin India yn galluogi GIG Cymru i "elwa ar gyfoeth o wybodaeth".
Mae'r ymgyrch recriwtio yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Kerala a gafodd ei lofnodi ym mis Mawrth 2024.
Ers hynny, mae mwy na 300 o weithwyr gofal iechyd o Kerala wedi derbyn swyddi ar draws GIG Cymru.
Y bwriad yw "ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y gweithlu" ac i "hyfforddi gweithlu’r GIG ar gyfer y dyfodol".
'Edrych ymlaen'
Mae Teena Thomas, nyrs o Karunagappally yn Kerala, yn un o'r rhai sy'n ymuno â GIG Cymru.
Dywedodd: "Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o dîm sy’n meddwl bod agwedd dosturiol, caredigrwydd a pharch mor bwysig.
"Mae cael y cyfle i weithio mewn amgylchedd amlddiwylliannol a chyfrannu at les y gymuned yng Nghymru wir yn rhoi boddhad.
"Rydw i’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau a’m harbenigedd mewn amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol."
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, ei fod yn croesawu'r cytundeb diweddaraf.
"Rydw i’n falch y bydd 200 yn rhagor o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o Kerala yn chwarae rhan bwysig i gefnogi GIG Cymru," meddai.
"Byddan nhw’n ymuno â’r rheini sydd wedi cael eu recriwtio i’n system gofal iechyd yn barod."
Ychwanegodd ei fod yn "edrych ymlaen" at barhau i gydweithio gyda Llywodraeth Kerala yn y dyfodol.