Newyddion S4C

Cynllun ieuenctid yn gwella presenoldeb disgyblion ym Mlaenau Gwent

ITV Cymru 28/02/2025

Cynllun ieuenctid yn gwella presenoldeb disgyblion ym Mlaenau Gwent

Mae cynllun rhwng clybiau ieuenctid ac ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent wedi ei sefydlu yn y gobaith o wella presenoldeb disgyblion ysgol yn yr ardal.

Fel rhan o’r cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Gweithwyr Ieuenctid yn bresennol ym mhob ysgol uwchradd ym Mlaenau Gwent ac maent wedi gweld cynnydd sylweddol o ran gwella presenoldeb disgyblion. 

Mae ystadegau diweddar yn awgrymu mai’r cyfraddau presenoldeb yn y sir ar gyfer cyfnod 2024/2025 ydy 91.5%, sydd ychydig yn uwch na’r 90.4% gafodd ei gofnodi’r flwyddyn gynt.

Ond mae pryder bod y ffigyrau yn parhau i fod isel o gymharu gyda ffigyrau cyn Covid-19. 

Cyfradd presenoldeb disgyblion yn y flwyddyn cyn y pandemig (2018/2019) oedd 94.3%.

Yn ogystal, mae cyfran y disgyblion sy’n absennol dros 10% o’r amser yn dal i fod yn sylweddol uwch na chyn y pandemig, ar 30.4% ar y cyfrif diwethaf, o’i gymharu ag 14.7% yn 2018/2019.

‘Ddim eisiau mynd i’r ysgol’

Yn ystod hanner tymor yr wythnos hon mae criw o bobl ifanc 11-16 oed wedi bod yn mwynhau cwrs preswyl yng Nghanolfan Summit yn Nhreharris, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau hybu hyder fel dringo.

Mae Summer, 15, sy'n mynychu Ysgol Sefydledig Brynmawr yn aelod o'r grŵp ieuenctid.

“Cyn i mi ddechrau clwb ieuenctid roedd dyddiau pan nad oeddwn i eisiau mynd i’r ysgol oherwydd pobl neu bynciau. Roedd fy mhresenoldeb i yn isel,” meddai Summer.

“Ond mae mynd i’r clwb ieuenctid ar nos Lun wedi helpu’n fawr gyda fy hyder ac ymddygiad ac mae siarad â’r gweithwyr ieuenctid wedi gwneud i mi sylweddoli ei bod yn bwysig mynychu’r ysgol ar gyfer fy nyfodol cyfan, nid dim ond ar gyfer fy addysg.”

Mae Kelsey, 16, hefyd wedi gweld y cynllun yn fuddiol. Roedd adegau lle roedd Kelsey ddim yn mwynhau mynd i’r ysgol ond mae’r cynllun wedi ei helpu i feddwl am y dyfodol. 

“Oedd e’n jyst rhoi pethe mewn i perspectif, o beth roeddwn i eisiau gwneud am y dyfodol.” meddai Kelsey.

“Weithiau roeddwn ni yn ofn gofyn am help ond oedd siarad wedi helpu fi.” 

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Bobl ac Addysg: “Mae rôl gweithwyr ieuenctid yn ein hysgolion yn gwbl sylfaenol o ran helpu pobl ifanc i fynychu a chyflawni, yn ogystal â bod yn berson y gellir ymddiried ynddo i wrando arnynt a darparu cymorth a chyngor.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.