
'Colli cyfle' wrth beidio cynnwys y Gymraeg mewn dramâu teledu Saesneg
Mae'r DJ Gareth Potter yn dweud bod "cyfle yn cael ei golli" wrth beidio cynnwys y Gymraeg mewn fersiynau Saesneg o ddramâu teledu sy'n cael eu cynhyrchu yn y ddwy iaith.
Cyfeiriodd at ddrama newydd The One That Got Away, a gafodd ei darlledu yn wreiddiol yn y Gymraeg dan y teitl Cleddau ar S4C, fel esiampl o hynny.
Dywedodd y BBC bod y ddrama wedi ei hysgrifennu yn Saesneg yn gyntaf.
Cafodd pennod gyntaf y gyfres ei darlledu'r wythnos hon ar BBC One Wales, wedi ei chynhyrchu gan BlackLight TV.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Gareth Potter bod The One That Got Away a Cleddau gystal a'i gilydd.
"Yr unig broblem sydd gyda fi, yn y fersiwn Saesneg fel petai, hyd y gwela i does na ddim lot o Gymraeg ynddo fe, ac yn y fersiwn Cymraeg mae ‘na eitha' lot o Saesneg ynddo fe, sydd yn teimlo'n fwy naturiol i fi," meddai.
"Dwi’n byw bywyd dwyieithog yn bersonol, wedi tyfu fyny yn ddwyieithog, a fi’n gweld pethau dwyieithog yn eithaf naturiol.
“Ti’n gweld cymeriadau yn The One That Got Away, ac yn meddwl ‘byddet ti yn siarad Cymraeg ‘da hwnna, ond dim gyda honna’, rhywbeth fel’na."
Ychwanegodd: “‘Swn i’n lico gweld cymeriadau yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd pan mae’n mwy naturiol. Dwi yn meddwl bod y gyfres yn grêt, mae’n subtly gwahanol a fi’n ffan o’r gyfres.
“Mae’n gyfnod rili da i ddramâu yn y Gymraeg, neu sy’n dod o Gymru, a bydde fe’n cyfle i’r Gymraeg cael ei gweld a’i chlywed ar draws y byd i gyd.
"Ond na, Saesneg bydd e’n cael ei glywed a fi’n meddwl bod cyfle yn cael ei golli."
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru a BlackLightTV: “Mae’r BBC yn falch a chyffrous i fod yn gartref i The One That Got Away, gan ddod â noir Cymreig a chast Cymreig gwych i gynulleidfaoedd ledled Cymru a’r DU."

Y Gwyll
Yn 2014 roedd fersiwn Saesneg o gyfres Y Gwyll wedi cael ei chomisiynu ar gyfer y BBC.
Roedd yn cynnwys golygfeydd lle'r oedd cymeriadau yn siarad gyda'i gilydd yn y Gymraeg.
Dyna oedd y tro cyntaf i gyfres drama ar y BBC gynnwys deialog yn yr iaith Gymraeg.
Erbyn hyn mae nifer o gyfresi ar blatfformau ffrydio fel Netflix ac Amazon Prime yn cynnwys deialog rhwng cymeriadau mewn ieithoedd gwahanol gydag isdeitlau.
Credai Gareth Potter bod dwyieithrwydd yn rhoi elfen fwy realistig i gyfresi.
“Dydw i ddim yn erbyn gwneud pethau yn Saesneg, ond bydde fe’n grêt gweld mwy o Gymraeg, falle rhai golygfeydd yn y Gymraeg mewn cyfresi Saesneg, 'sa hwnna’n grêt," meddai.
"Oherwydd y’n ni yn genedl ddwyieithog, fi’n meddwl bydde hwnna’n fwy credadwy mewn ffordd.
“Ond mae’n grêt gweld y cynhyrchwyr, ysgrifenwyr ac actorion Cymraeg yn cael y cyfle i wneud pethau fel hyn. Dydw i ddim eisiau siarad yn erbyn nhw, ond weithiau ‘da ni’n colli cyfle trwy beidio arddangos y Gymraeg, weithiau does dim digon o Gymraeg ar BBC Wales, a mae hynny’n siom.
“Byse fe’n grêt 'sa miwsig Cymraeg yn cael ei defnyddio mewn cyfresi tebyg i rhain hefyd.”