Cyngres yn pleidleisio o blaid ryddhau dogfennau Jeffrey Epstein
Mae'r ddwy siambr Cyngres wedi cytuno i orchymyn adran gyfiawnder yr UDA i ryddhau ffeiliau'r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Fe bleidleisiodd Tŷ'r Cynrychiolwyr yn ysgubol o blaid y mesur o 427 i 1.
Daw hyn ddyddiau ar ôl i Arlywydd America, Donald Trump newid ei safbwynt am ryddhau'r dogfennau.
Fe ddywedodd y dylai'r Gyngres bleidleisio o blaid gwneud gan ddweud "nad oes "gennym ni ddim byd i'w guddio".
Wythnos diwethaf roedd cysylltiad Trump gyda Epstein yn ôl yn y penawdau ar ôl i 20,000 o dudalennau o ddogfennau gael eu cyhoeddi. Roedd rhai yn crybwyll Trump. Mae'r Tŷ Gwyn wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le.
Newid safbwynt
Roedd y newid safbwynt gan yr Arlywydd yn annisgwyl i'r Gweriniaethwyr oedd wedi cefnogi galwadau i beidio rhyddhau'r papurau.
Roedd Siaradwr y Tŷ, Mike Johnson dro ar ôl tro wedi dweud mai "tric gan y Democratiaid" oedd y pwysau i gyhoeddi'r ffeiliau. Ond ddydd Mawrth fe bleidleisiodd o blaid eu rhyddhau.
Y disgwyl oedd y byddai hi'n ddyddiau wedyn nes y byddai'r Senedd yn pleidleisio ar y mater. Ond wedi pleidleisio mor unfrydol fe newidiodd yr amserlen i fod yn fwy cyflym.
Bydd y mesur yn golygu rhyddhau'r holl ddogfennau, negeseuon a deunyddiau ymchwiliadol sy'n gysylltiedig â'r pedoffeil Jeffrey Epstein.
'Wnawn ni ddim stopio'
Roedd dioddefwyr Epstein wedi galw ar y ddwy siambr i ryddhau'r ffeiliau.
Wrth siarad wedi'r bleidlais fe wnaeth brawd Virginia Giuffre, un o ddioddefwyr mwyaf blaenllaw Epstein, ganmol ei chwaer am geisio cael cyfiawnder i'r dioddefwyr.
Giuffre oedd un o ddioddefwyr mwyaf blaenllaw Epstein. Fe laddodd ei hun ym mis Ebrill.
"Fe wnaeth hi lwyddo, fe wnaeth hi baratoi'r ffordd... Fe wnaeth hi baratoi'r ffordd i ni ddod ymlaen a dadlau'r achos, i'w chwiorydd sydd wedi goroesi i ddod ymlaen a wnawn ni ddim stopio," meddai Sky Roberts.
Llun: Reuters