Newyddion S4C

Y Gymraes sy'n gweithio gyda bocswyr enwocaf y byd

26/02/2025
Caitlin Bennett gyda Joe Cordina / Caitlin Bennett
Caitlin Bennett gyda Joe Cordina

O Las Vegas i Uzbekistan, mae un Gymraes yn teithio'r byd yn gweithio gyda'r bocswyr mwyaf enwog.

Dechreuodd Caitlin Bennett o Gasnewydd ei swydd gyda chwmni Matchroom Boxing ar ôl graddio o Brifysgol Sir Gaerloyw yn 2021.

Roedd ei chyfrifoldebau yn cynnwys gweithio ar gynnwys i'r cyfryngau cymdeithasol, ond bellach mae'n gweithio'n agos iawn gyda bocswyr fel Anthony Joshua, Oleksandr Usyk a Katie Taylor.

"O ddydd i ddydd dwi'n gweithio'n agos gyda'r bocswyr, yn delio gydag unrhyw geisiadau am docynnau, neu gynnwys i'r cyfryngau cymdeithasol, trefnu stafelloedd mewn gwestai," meddai Caitlin wrth Newyddion S4C.

"Dwi hefyd yn gweithio gyda'r tîm PR i sicrhau'r cyfleoedd gorau iddynt cyn iddyn nhw ymladd, felly mae'n berthynas agos iawn gyda nifer ohonynt."

'Ffrindiau'

Bellach yn 25 oed mae Caitlin wedi bod yn gweithio fel swyddog cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt bocswyr i gwmni Matchroom ers bron i bedair blynedd.

Yn yr amser hwnnw mae hi wedi gweithio ar nifer o ddigwyddiadau enfawr ar draws y byd.

Pan ddechreuodd y swydd roedd wrth ei bodd yn cwrdd gyda'i harwyr yn y byd bocsio.

A dros y blynyddoedd mae'r bocswyr roedd hi'n ei gwylio ar y teledu bellach yn ffrindiau agos.

"Dwi'n cofio cwrdd â Joe Calzaghe, pencampwr y byd wnaeth erioed colli yn ei yrfa broffesiynol, ac roeddwn i'n star struck!" meddai.

Image
Caitlin Bennett gydag un o'i harwyr, Joe Calzaghe
Caitlin Bennett gydag un o'i harwyr, Joe Calzaghe

"Mae AJ (Anthony Joshua) hefyd, mae gen i berthynas agos gyda fe, Katie Taylor a Skye Nicholson hefyd, pencampwyr y byd sydd nawr yn ffrindiau agos i mi.

"Pan ddechreuais i yn y swydd roeddwn i'n cael y pinch me moments 'ma, ond ar ôl ti treulio cymaint o amser yna mae pawb yn ffrindiau.

"Ti'n sylweddoli bod pawb yn normal, fel pob un person arall."

Cadeirydd Matchroom Sports yw Eddie Hearn, sydd yn fyd enwog yn y byd chwaraeon.

Mae Caitlin yn dweud ei fod yn berson gwahanol iawn i'r hyn mae nifer yn ei ddisgwyl.

"Dwi'n gweithio'n agos iawn gyda fe. Dwi'n meddwl weithiau dwi'n gallu mynd ar ei nerfau," meddai.

"Mae gen i berthynas grêt gyda fe, a dydw i ddim meddwl bod pobl yn rhoi digon o glod iddo am ei waith.

"Mae'n berson rili rili neis, yn amlwg dyw pobl sydd ddim yn gweithio gyda fe yn gweld yr ochr yna iddo, ond mae'n gwneud i rywun chwerthin ac mae'n gweithio'n galed iawn hefyd."

Image
Caitlin Bennett gydag Eddie Hearn (crys glas) a Phrif Weithredwr Matchroom, Frank Smith
Caitlin Bennett gydag Eddie Hearn (crys glas) a Phrif Weithredwr Matchroom, Frank Smith

'Hiraethu am adref'

Mae Caitlin nawr yn byw yn Essex, ac yn teithio ar draws y DU yn wythnosol gyda'i swydd.

Mae hi hefyd yn treulio cyfnodau hir i ffwrdd o adref pan mae digwyddiadau Matchroom yn cael eu cynnal ledled y byd.

Er iddi weithio yn Uzbekistan, Los Angeles, Miami, Abu Dhabi a Monte Carlo, mae Caitlin yn hiraethu am adref yn aml.

"Mae pobl yn chwerthin arna i pan dwi'n dweud fy mod yn colli Cymru a Chasnewydd, ond dwi wir yn colli adref," meddai.

"Dwi'n ceisio gwneud y daith tair awr a hanner yn ôl i Gasnewydd pan dwi'n gallu, sydd ddim mor aml â hynny'n anffodus.

"Mae gen i datŵ 'Yma o Hyd' ac roeddwn i bron wedi cael tatŵ 'Hiraeth' hefyd, achos mae'n crynhoi yn union y teimlad yna o golli Cymru.

"Dwyt ti methu egluro hynny i rywun sydd ddim yn Gymro neu'n Gymraes, sef eithaf lot o bobl yn fy ngwaith."

Image
Caitlin Bennett yn gweithio yn ystod wythnos ffeit Anthony Joshua yn Wembley
Caitlin Bennett yn gweithio yn ystod wythnos ffeit Anthony Joshua yn Wembley

Cymry'r byd bocsio

Dros y blynyddoedd mae nifer o Gymry wedi bod yn llwyddiannus yn y byd bocsio.

O Johnny Owen i Joe Calzaghe ac yn y presennol gyda Joe Cordina a Lauren Price.

Mae Caitlin yn meddwl bod dyfodol disglair i focswyr Cymreig, yn enwedig Ioan a Garan Croft o Grymych.

"Roeddwn i wedi cwrdd â'r ddau trwy focsio, dydw i ddim yn gweithio gyda nhw ond rydym yn ffrindiau sydd yn rhywbeth neis," meddai.

"Teithiais i Waterford yn Iwerddon i wylio nhw'n ymladd am y tro cyntaf fel bocswyr proffesiynnol, ac yna treulio penwythnos gyda'r ddau yn Nulyn,

"Maen nhw'n fechgyn gwych, a dwi'n meddwl bod nhw'n gallu mynd yn bell yn y gamp.

"A beth sydd yn wych yw bod ganddyn nhw gymaint o gefnogaeth 'nôl yng Nghrymych, dwi'n meddwl bod nhw'n gallu mynd yn bell, bell iawn yn y byd bocsio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.