Newyddion S4C

Caerfyrddin: Arestio person ar ôl marwolaeth plentyn

25/02/2025

Caerfyrddin: Arestio person ar ôl marwolaeth plentyn

Mae person wedi cael arestio ar ôl i blentyn farw yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod y gwasanaeth ambiwlans wedi eu galw i gynorthwyo gyda galwad mewn eiddo yn Llangynnwr, Caerfyrddin tua 18:00 ddydd Iau.

Ychwanegodd y llu fod "plentyn yn sâl ac fe gafodd hi ei chludo i'r ysbyty".

Bu farw'r plentyn ychydig yn ddiweddarach.

Mae un person wedi cael ei arestio ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C dywedodd un o gynghorwyr Cyngor Cymuned Llangynnwr, Geraint Bevan bod y gymuned wedi synnu.

“Ni’n drist iawn i glywed y newyddion, a alla'i fel aelod y cyngor rhannu ein cydymdeimlad gyda pawb sydd wedi cael eu heffeithio," meddai.

“Dwi’n teimlo bod Llangynnwr yn ardal glos iawn a dwi’n siŵr bydd pawb yn shocked, bydd pawb yn tynnu at ei gilydd i helpu ar ôl beth sydd wedi digwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.