Disgwyl 'cynnydd dramatig' mewn achosion a marwolaethau o ganser y fron
Fe fydd y nifer o ferched a fydd yn derbyn diagnosis canser y fron ac yn marw o’r afiechyd yn “cynyddu’n ddramatig” erbyn 2050, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae’r Asiantaeth Ymchwil Canser Rhyngwladol (IARC), sydd yn rhan o Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhagweld y bydd cynnydd o 21% mewn achosion o ganser y fron yn y DU erbyn 2050.
Mae’r data yn awgrymu y bydd yna gynnydd o 42% mewn marwolaethau dros yr un cyfnod.
Credir bod modd atal tua 23% o achosion canser y fron yn y DU, gyda thua 8% o achosion yn cael eu hachosi gan ordewdra ac 8% drwy yfed gormod o alcohol.
Ond heneiddio yw'r prif ffactor risg ar gyfer unrhyw fath o ganser, a achosir yn bennaf gan ddifrod i gelloedd DNA dros amser.
Fe edrychodd ymchwilwyr IARC ar y data diweddaraf a data y dyfodol ar gyfer canser y fron ymhlith menywod mewn tua 50 o wledydd ledled y byd, gan gymharu ffigurau 2022 â 2050.
Mae'r ffigurau'n dangos bod disgwyl i achosion o ganser y fron yn y DU godi o 58,756 o achosion y flwyddyn yn 2022 i 71,006 o achosion y flwyddyn yn 2050.
Yn yr un modd, bydd marwolaethau canser y fron yn y DU yn codi o 12,122 y flwyddyn yn 2022 i 17,261 y flwyddyn yn 2050.
Cynnydd mewn poblogaeth yw'r prif reswm am y cynnydd mewn diagnosis, yn ôl gwyddonwyr.
Mae’r astudiaeth yn awgrymu y bydd un mewn pob 20 o fenywod ledled y byd yn derbyn diagnosis canser y fron dros gyfnod eu bywyd.
Os mae’r patrwm presennol yn parhau, dywedir y bydd 3.2 miliwn o achosion newydd byd eang erbyn 2050, gyda 1.1 miliwn o farwolaeth yn ymwneud â’r canser.
Fe fydd un allan o bob 70 o fenywod yn marw o’r afiechyd erbyn 2050, yn ôl yr asiantaeth.
Dywedodd y gwyddonydd IARC, Dr Joanne Kim, sydd yn un o awduron yr adroddiad, fod angen i wledydd weithio ar atal canser yn ogystal â buddsoddi mewn canfod a thrin canser yn gynnar.
“Bob munud, mae pedair menyw yn cael diagnosis o ganser y fron ledled y byd ac mae un fenyw yn marw o’r afiechyd, ac mae’r ystadegau hyn yn gwaethygu,” meddai.