Newyddion S4C

Rhybuddion am lifogydd mewn nifer o ardaloedd yn y de

Lligofydd yn Hirwaun, Rondda Cynon Taf
Rhybuddion am lifogydd

Mae nifer o rybuddion am lifogydd ar draws de Cymru ar ôl penwythnos o law trwm.

O Fynwy i Gaerfyrddin mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi saith rhybudd am lifogydd yn y de, gyda nifer o rybuddion 'paratowch am lifogydd' yn y canolbarth a'r gogledd hefyd.

Mae'r rhybuddion yn cynnwys Afon Tywi rhwng Llandeilo ac Abergwili a ger Cei Caerfyrddin a'r Elái ger Sain Ffagan a Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod yna beryg i ddŵr afonydd godi yn uwch fore Llun mewn rhai mannau.

Fe allwch chi weld yr holl rybuddion fan hyn

Daw'r rhybuddion wedi penwythnos o law trwm.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd oren am law trwm yn y de a'r canolbarth o ddydd Sul tan oriau mân y bore ddydd Llun.

Cafodd y rhybudd hwnnw ei uwchraddio o felyn i oren yn hwyrach, ac mae'r rhybudd hwn yn golygu y gallai fod perygl i fywyd.

Mae rhybudd melyn am law trwm hefyd wmewn grym tan 08:00 fore Llun.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.