Arweinwyr byd i gyfarfod yn Kyiv dair blynedd ers dechrau rhyfel Wcráin
Mae disgwyl i arweinwyr rhyngwladol gyfarfod yn ninas Kyiv ddydd Llun i ddangos cefnogaeth i Wcráin, union dair blynedd ers i Rwsia ddechrau ymosod ar y wlad.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gan Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ddyddiau ar ôl i Arlywydd America, Donald Trump, gyhuddo Wcráin o ddechrau'r rhyfel ym mis Chwefror 2022.
Mae sawl arweinydd eisoes wedi cyhoeddi eu bwriad i fynd i'r cyfarfod, gan gynnwys Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sánchez; Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, António Costa; ac Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen.
Ddydd Iau, bydd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, yn teithio i America i gyfarfod â'r Arlywydd Trump, wrth i'r berthynas suro rhwng Wcráin ac America, wedi i Donald Trump alw'r Arlywydd Zelensky yn unben.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth swyddogion Americanaidd gyfarfod â gwleidyddion Rwsia ar gyfer trafodaethau yn Saudi Arabia, ond chafodd Wcráin ddim gwahoddiad.
Mae Syr Keir Starmer wedi datgan ei gefnogaeth i Mr Zelensky yn dilyn sylwadau Mr Trump.
Cyn y digwyddiadau i nodi tair blynedd ers dechrau'r rhyfel, fe ddywedodd yr Arlywydd Zelensky mewn cynhadledd newyddion ddydd Sul y byddai'n fodlon rhoi'r gorau i fod yn arlywydd yn gyfnewid am heddwch yn Wcráin.
"Byddwn yn fodlon gadael y gadair hon hefyd, os y byddai modd i Wcráin fod yn aelod o Nato," meddai.