Israel yn gohirio rhyddhau mwy na 600 o wystlon Palesteinaidd
Mae Israel wedi dweud eu bod yn gohirio rhyddhau mwy na 600 o wystlon Palesteinaidd am gyfnod amhenodol.
Dywedodd swyddfa Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, fore Sul y byddai’r broses o ryddhau 620 o wystlon Palesteinaidd yn cael ei gohirio hyd nes bod Hamas yn gwarantu'r trosglwyddiad nesaf o wystlon Israelaidd.
Mae Mr Netanyahu hefyd eisiau i'r gwystlon gael eu rhyddhau heb y "seremonïau bychanol" mae Hamas wedi’u cynnal yn flaenorol.
Roedd disgwyl i'r gwystlon Palesteinaidd gael eu rhyddhau ddydd Sadwrn, wedi i chwech o wystlon Israelaidd gael eu rhyddhau gan Hamas.
Dim ond un achos arall o ryddhau gwystlon sydd i fod yng ngham cyntaf y cadoediad, a fydd yn cynnwys pedwar a fu farw mewn caethiwed.
Nid oes unrhyw drefniadau wedi'u gwneud eto i ryddhau gwystlon byw eraill, sydd i fod i ddigwydd yng ngham dau o'r cadoediad.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Hamas fod honiad Israel bod y seremonïau'n "fychanol" yn ffug.
Mae'r grŵp yn honni fod Mr Netanyahu wedi gohirio rhyddhau gwystlon Palesteinaidd yn "fwriadol".
Fe gafodd pump o’r chwech o wystlon a gafodd eu rhyddhau ddydd Sadwrn eu hebrwng gan filwyr arfog o flaen torf.
Mae’r Cenhedloedd Unedig a'r Groes Goch wedi dweud yn flaenorol bod y broses hon yn greulon.