Newyddion S4C

Gorsafoedd pleidleisio yr Almaen ar agor wedi ymgyrch frwd

Friedrich Merz
Friedrich Merz

Mae'r Almaenwyr yn bwrw'u pleidlais ddydd Sul, wedi ymgyrch etholiadol frwd, gyda dirywiad yr economi a chyfres o ymosodiadau terfysgol yn hawlio'r penawdau yno.

Friedrich Merz, y gwleidydd 69 oed o Blaid y Democratiaid Cristnogol yw'r ffefryn i ennill a dod yn Ganghellor nesaf yr Almaen.

Mae e wedi addo datrys y rhan fwyaf o broblemau'r Almaen mewn pedair blynedd. 

Pe bai yn ennill, byddai angen iddo ffurfio clymblaid gydag o leiaf un blaid arall. 

Plaid Olaf Scholz, y Democratiaid Sosialaidd sydd fwyaf tebygol o ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Cristnogol, sef y blaid a ffurfiodd lywodraeth yno y llynedd cyn iddi ddymchwel.

Mae Friedrich Merz wedi pwysleisio na fydd yn dod i unrhyw gytundeb â'r blaid asgell dde eithafol, AfD, sy'n debygol o ddod yn ail y tu ôl i'r Democratiaid Cristnogol sy'n cynrychioli'r canol chwaith. 

Mae mewnfudo a diogelwch yn bynciau llosg yn yr Almaen. 

Yn sgil hynny, bydd gweddill gwledydd Ewrop ac America yn cadw llygad barcud ar y canlyniadau. 

Mae Friedrich Merz wedi addo bod yn arweinydd cryf yn Ewrop ond byddai o dan bwysau oherwydd y sefyllfa yn Wcráin, gan wynebu arlywydd yn America sydd yn feirniadol o Ewrop ac wedi galw Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky yn unben.  

Adain dde 

Mae arweinwyr gwleidyddol yr Almaen wedi cael syndod ar ôl i Ddirprwy Arlywydd America, JD Vance gyfarfod ag ymgeisydd plaid adain dde'r AfD, Alice Weidel. 

Mae'r AfD eisoes yn boblogiadd mewn rhanbarthau dwyreiniol yn yr Almaen, ac yn ennill tir yn y gorllewin hefyd, gan ddenu cefnogaeth bobl ifanc trwy gyfryngau cymdeithasol fel Tiktok. 

Mae un fideo gan Alice Weidel wedi ei gwylio bedair miliwn o weithiau.

Mae'r AfD yn dymuno pleidlais ar adael yr Undeb Ewropeaidd os nad oes modd diwygio'r sefydliad. 

Ond mewnfudo yw eu prif neges, wedi pump o ymosodiadau angheuol ers mis Mai diwethaf, gyda thri yn ystod yr ymgyrch etholiadol, a honiadau mai mewnfudwyr oedd yn gyfrifol am y tri ymosodiad hwnnw.       

Mae gan 59.2 miliwn o Almaenwyr yr hawl i bleidleisio, ac er bod miliynau eisoes wedi bwrw'u pleidlais dwy'r post, mae'n ymddangos nad yw 20% wedi penderfynu eto.        

Bydd y gorsafoedd yn cau am 18:00 (amser yr Almaen) ac er na fydd canlyniad swyddogol am beth amser, dylai ddod yn amlwg nos Sul pwy yw'r ceffyl blaen. 

Llun: Alexandra Beier / AFP

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.