Ymchwiliad ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ar yr M4
Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad ar ôl i weddillion corff dynol gael eu darganfod ar draffordd yr M4 ger Bryste.
Yn ôl yr heddlu, corff dyn yn ei bedwardegau gafodd ei ddarganfod ac mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod.
Derbyniodd y llu sawl galwad gan yrwyr tua 18.40 nos Sadwrn yn nodi fod rhywbeth ar y ffordd rhwng cyffordd 20 a chyffordd 22 yr M4 - rhwng Almondsbury ac Awkley.
Cafodd lôn ddwyreiniol traffordd yr M4, a'r M48 rhwng Croesfan Hafren a chyffordd 21 yr M4 eu cau, cyn iddyn nhw gael eu hailagor yn ystod oriau mân y bore.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo eu hymchwiliad i gysylltu â nhw.
Llun: Google Maps