Newyddion S4C

Merch dair oed wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng tram a fan

Tram Manceinion

Mae'r heddlu yn chwilio am yrrwr fan ar ôl i ferch dair oed farw mewn gwrthdrawiad rhwng tram a fan ym Manceinion.   

Dywedodd yr heddlu bod y ferch wedi'i chludo i ysbyty wedi'r gwrthdrawiad yng nghanol y ddinas fore Sadwrn, ond bu farw yn ddiweddarach.  

Does neb wedi ei arestio.  

Yn ôl yr heddlu ym Manceinion, roedd y ferch yn cerdded adeg y gwrthdrawiad, a doedd hi ddim yn y fan na'r tram. 

Dywedodd yr heddlu bod y fan wedi mynd ar y palmant ar ôl taro yn erbyn y tram, ac yna wedi taro'r ferch fach.     

Yn ôl yr heddlu, mae'r gyrrwr wedi dianc o'r safle, ac mae nhw yn ceisio dod o hyd iddo drwy ddilyn sawl ffynhonnell wybodaeth.     

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Orllewin Lloegr: "Mae ein meddyliau gyda theulu ac anwyliaid y ferch fach a fu farw yn dilyn digwyddiad ym Manceinion heddiw. 

"Fe gawsom ein galw i'r digwyddiad at Stryd Mosley y bore yma am 09.58, gan anfon dau ambiwlans, cerbyd ymateb cyflym, dau griw ambiwlans awyr a sawl uwch glinigwr i'r lleoliad."

Does dim gwasanaethau tram yn rhedeg rhwng St Peter’s Square a Piccadilly Gardens ers y gwrthdrawiad. 

Llun Llyfrgell

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.