Newyddion S4C

Llenor o Fôn yn trafod y gwrthdaro rhwng ei ffydd a’i rywioldeb

Gareth Evans Jones

Ar raglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul, mae'r llenor Gareth Evans Jones yn trafod y gwrthdaro a deimlodd rhwng ei ffydd a'i rywioldeb. 

Wrth nodi mis LHDTC+ bydd y rhaglen yn trafod pwysigrwydd yr ymgyrch i bobl ar hyd y wlad, ac yn nodi sut mae hi wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth o’r achos.

Yn ddarlithydd diwinyddiaeth a llenor, bydd y rhaglen yn bwrw golwg ar daith ysbrydol Gareth Evans Jones a’r ffaith ei fod yn ddeurywiol.

Mae’n dod o Draeth Bychan ger Marian Glas, Sir Fôn. A heb fod yn bell o’i gartref yng nghysgod Mynydd Bodafon, mae Eglwys Penrhosllugwy, llecyn ysbrydol sy’n agos iawn at ei galon.

Ar y rhaglen, mae Gareth yn trafod y gwrthdaro roedd o’n ei deimlo rhwng ei ffydd a theimladau cymysglyd ei rywioldeb.

“Ro’n i’n gwybod nad o’n i’n heterorywiol chwaith nad o’n i’n hoyw; rhyw lobsgows o sefyllfa, ddim yn deall be di be ‘lly.” meddai.

“Mi gymrodd hi tan fy 20au canol i mi dderbyn ‘mod i’n ddeurywiol a ‘mod i’n deall be ‘di deurywiol.”

Dywedodd ei fod yn credu ei fod yn bwysig i bobl ddathlu pwy ydyn nhw a’n bod ni i gyd yn wahanol - “mi fysa’r lle ‘ma’n llawar iawn mwy diflas os fysa ni i gyd yr un fath”.

Crefydd 

Prif ganolbwynt y rhaglen ydy'r berthynas mae Gareth wedi ei chael â chrefydd, ac yntau’n ddeurywiol.

Cafodd ei Feibl cyntaf pan roedd yn flwydd oed gan ei nain Fron Goch, ac mae’n dal ganddo hyd heddiw.

“Un o’r 10 Gorchymyn ydi ‘Anrhydedda dy Dad a’th Fam”, meddai, “ac ro’n i’n methu anrhydeddu ‘nhad ar y pryd.”

Mae’n egluro bod gan ei dad broblemau pan roedd Gareth yn ifanc, ac mae'n dweud iddo fod yn dreisgar.

“Mi oedd hynna wedi cael effaith negyddol… o'n i’n gweld fedrai’m anrhydeddu ‘nhad”.

Roedd felly’n teimlo’n ansicr yn ei gredoau, ac yn gweld ei hun yn cwestiynu ei hawl i gael mynd i’r eglwys. 

“Os ydw i’n heterorywiol ac allai ddim cadw at bob un o’r 10 Gorchymyn, pa hawl sydd gen i i fynd i’r eglwys?” meddai.

Mae Gareth hefyd yn trafod yr heriau mae’r gymuned LHDTC+ yn eu hwynebu ar y funud, gan gynnwys sylwadau Arlywydd America, Donald Trump.

Mae hefyd yn un o sylfaenwyr y clwb darllen LHDTC+, Llyfrau Lliwgar, sydd bellach â thair cangen ar draws Cymru.

Dyma’r clwb llyfrau LHDTC+ cyntaf yng ngogledd orllewin Cymru, ac mae’r aelodau’n dod at ei gilydd i drin a thrafod llenyddiaeth sy’n ymwneud â’r gymuned LHDTC+.

“Mae ‘na fwy o welededd erbyn heddiw” meddai wrth sôn am y gwahanol weithgareddau sydd ar gael i bobl o’r gymuned LHDTC+.

“Mae ‘na glybiau cerdded, clybiau ffilm, ac mi wnaeth GISDA gynnal eu digwyddiad BALCHDER eu hunain yng Nghaernarfon y llynedd”.

Y brifysgol

Mae Gareth yn egluro ei fod wedi cael cyfnodau heriol yn ei fywyd, yn enwedig yn y brifysgol ym Mangor, lle mae bellach yn ddarlithydd diwinyddiaeth.

“Mi oedd ‘na gyfnodau anodd o ran hunanwerth ac iechyd meddwl ac ati, a datblygu yn sgil hynny” meddai.

“Mae’r ffaith ‘mod i yma rŵan, ac yn medru bod yn rhan o deithiau pobl eraill o bob oed ac o bob cwr yn dod i Fangor i astudio yn bwysig”.

“Dwi’n caru athroniaeth a chrefydd a medru gweld eu datblygiadau hwythau hefyd wrth iddyn nhw fynd drwy’r cyfnod ffurfiannol yma, mae’n brofiad wirioneddol eithriadol a deud y gwir.”

Mae Gareth yn egluro yn y rhaglen ei fod wedi cadw ei ffydd “o ran y daliadau cariadus sy’n hanfodol i’r efengyl Gristnogol”, ac mae hynny’n “amlwg” yn y ffaith ei fod yn heddychwr, a’i fod yn trio’i orau i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yr un ffordd ag y byddai ef yn dymuno cael ei drin.

“Yr egwyddorion sylfaenol yna ar sut fedar cymdeithas fod yn gymdeithas iach, a dyna sy’n hanfod i Gristnogaeth…felly yn hynny o beth, rhyw fath o ffydd weithredol ydi hi bellach.”

Baner y gymuned LHDTC+

Wrth drafod y faner sy’n gysylltiedig â’r gymuned LHDTC+, mae’n dweud  bod lliwiau’r faner yn “symbol yn ei hun”.

“O lyfr Genesis, mae’r enfys yn arwydd o gymod ac undod rhwng Duw a dyn, ond hefyd rhwng dyn a dyn…rhwng cymdeithas, a dwi’n meddwl bod hynny’n agwedd hollbwysig inni gofio” meddai.

Bydd y rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol yn cael ei darlledu  ar S4C am 18:45 ddydd Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.