Bangor: Cyhuddo dyn o Fanceinion o glyflenwi cyffuriau yn y ddinas
Mae dyn 25 oed wedi’i gyhuddo yn dilyn ymgyrch i amharu ar werthu cyffuriau 'County Lines' ym Mangor.
Yn ystod cyrch gan yr heddlu yn y ddinas ddydd Mercher, cynhaliwyd camau i stopio ag archwilio unigolion yn y ddinas.
Daeth Heddlu'r Gogledd o hyd i lawer iawn o'r hyn y maen nhw'n ei gredu sydd yn gyffuriau Dosbarth A a B, a chyllell fawr.
Cafodd Callum Kinney, o Ffordd Lightbowne, Manceinion ei arestio, ac fe gafodd ei gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cocên, heroin a chanabis oedd yn ei feddiant.
Cafodd Kinney ei gadw yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno fore dydd Gwener.
Mae'r arfer o groesi ffiniau siroedd i werthu cyffuriau gan ddefnyddio ffonau symudol yn cael ei adnabod fel 'county lines' gan yr awdurdodau.
Yn aml mae gangiau mewn dinasoedd fel Lerpwl, Llundain, Manceinion a Birmingham yn defnyddio pobl fregus a phlant i gludo a gwerthu'r cyffuriau ar eu rhan.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Ian Roberts: “Gall y pŵer stopio a chwilio hwn amharu ar droseddu sydd wedi ei drefnu o flaen llaw a helpu i gymryd cyffuriau ac arfau oddi ar ein strydoedd.
“Does dim lle i gyffuriau na thrais yn ein cymuned a bydd camau pellach yn parhau yn ystod y misoedd nesaf yn ein hardal.
“Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd elyniaethus i unrhyw un sy’n credu y gallant ecsbloetio ein cymuned.
“Os oes gennych unrhyw wybodaeth am droseddu yn ein hardal, cysylltwch â ni ar 101, neu drwy ein gwefan.
“Fel arall, gallwch gysylltu â’r elusen annibynnol Crimestoppers, 100% yn ddienw ar 0800 555 111.”