Newyddion S4C

Dyn o Henffordd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn ym Merthyr

Heddwas

Mae dyn o Henffordd yn Lloegr wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn arall ym Merthyr Tudful.

Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw ychydig wedi 22:00 ar ddydd Llun 10 Chwefror yn dilyn adroddiad bod dyn 28 oed yn ysbyty'r dref yn dioddef o nifer o anafiadau trywanu.

Mae George Miles-Williams, 23 oed, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa. 

Mae dwy ddynes o Henffordd, sy'n 54 a 22 oed, wedi’u harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd James Morris: “Rwy’n deall bod digwyddiadau fel hyn yn peri pryder i’r cyhoedd, ond hoffwn dawelu meddwl y gymuned leol gan ei fod yn ymddangos fel digwyddiad ynysig er ei fod yn amlwg yn drawmatig iawn i’r dioddefwr a’i deulu a’i ffrindiau.

“Mae Miles-Williams wedi’i gyhuddo a’i gadw yn y ddalfa. Mae ymchwiliad trylwyr yn parhau i sefydlu beth yn union ddigwyddodd y noson honno.”

Bydd George Miles-Williams yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr ar 20 Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.