Newyddion S4C

Costau parcio penwythnos i 'effeithio ar fwynhad' clwb rygbi

Costau parcio penwythnos i 'effeithio ar fwynhad' clwb rygbi

Mae un o glybiau rygbi'r brifddinas yn dweud y gallai newidiadau i daliadau parcio “effeithio ar fwynhad a hygyrchedd” ei aelodau.

Fe allai newidiadau gan Gyngor Caerdydd olygu y bydd yn rhaid talu ar gyfer meysydd parcio ar y penwythnos.

Ar hyn o bryd mae parcio ger caeau Pontcanna, lle mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd (CRCC) yn chwarae eu gemau cartref, am ddim am ddwy awr.

Mae modd talu am gyfnodau hirach na hynny.

Ond fe allai newidiadau posib olygu y bydd tâl o £3.50 am barcio am hyd at awr, £4.50 am ddwyawr a chyfyngiad o barcio am bedair awr yn unig.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd cadeirydd CRCC, Eurof James: "Ar brynhawn dydd Sadwrn pan ‘ma dynion ni’n chwarae, ma’r bois yn gorfod troi fyny erbyn un o’r gloch y prynhawn mi fyddan nhw yna tan tua hanner awr ‘di pedwar, pump o’r gloch - pedair awr. Mi fydd y gost yn £4.50 iddyn nhw.

"Ag yn yr un modd i’n tîm merched ni ar brynhawn dydd Sul. Wrth gwrs ar bore dydd Sul pan mae 'na gannoedd o blant yna, mi fydd rhieni'n gorfod talu o'u poced eu hunain.

"Ni'n ceisio cynnal y clwb fel hwb i deuluoedd a chymuned, a fydd hyn yn sicr yn effeithio ar hynny.

"Gall bwriad diweddar ein cyngor i ymestyn y taliadau maes parcio i gynnwys y penwythnosau amharu yn ddirfawr ar y mwynhad a’r hygyrchedd o fewn ein clwb."

Adolygiad

Mae’r cyngor yn dweud eu bod yn cynnal adolygiad i nifer o’u meysydd parcio ar draws y ddinas mewn ymgais i arbed arian.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod y “sefyllfa o ran cyllideb y cyngor dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol.

“Mae penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud, gan gynnwys cael gwared ar y mannau parcio am ddim am awr neu ddwy mewn ardaloedd siopa preswyl.”

Y llynedd fe gyhoeddodd y cyngor eu bod am gael gwared ar barcio am ddim mewn nifer o lefydd yn Llandaf, Yr Eglwys Newydd, Rhiwbeina a Llanisien.

Image
Y newidiadau posib i daliadau parcio ym Mhontcanna
Y newidiadau posib i daliadau parcio ym Mhontcanna

'Cymuned yn dioddef'

Mae nifer o chwaraewyr y clwb hefyd wedi datgan eu hanfodlonrwydd gyda'r newidiadau posib.

Fel arfer mae rhai yn cyrraedd yn gynnar i helpu i baratoi'r ystafelloedd newydd neu'n aros yn hwyrach i gymdeithasu.

Dywedodd Laura Satterly wrth Newyddion S4C bod y newid yn effeithio ar fwy na'r chwaraewyr yn unig.

"Mae lot o ni’n cyrraedd yn gynnar falle i neud bach o extras neu i paratoi’r ‘stafelloedd newid," meddai.

Ma’ staff fel team managers, physios ‘da ni, ma' nhw’n cyrraedd yn gynnar hefyd ac yn aros tan ar ôl bod y gêm ‘di gorffen ’fyd.

"Ma’n effeithio ar mwy ‘na jyst ni fel chwaraewyr."

Image
Dafydd Duggan yw un o'r chwaraewyr sydd yn peoni am effaith taliadau penwythnos
Dafydd Duggan yw un o'r chwaraewyr sydd yn peoni am effaith taliadau penwythnos

Ychwanegodd Dafydd Duggan fod nifer o'i ffrindiau yn defnyddio'r parc ac yn gyrru yno i gerdded neu ymarfer corff.

Fe fyddai cymuned Caerdydd yn dioddef pe bai tâl i barcio ym Mhontcanna, meddai.

"Dim jyst clwb rygbi bydd yn diodde’ o hyn, ond cymuned Caerdydd yn gyffredinol.

"Ma’n lot o ffrindiau i tu allan i rygbi yn defnyddio’r parc yn ddyddiol.

"I rieni sydd gyda plant, yn ariannol ma’r costau i gael cit, y bŵts, y tâl aelodaeth yn sylweddol ‘ta beth i unrhyw glwb chwaraeon.

"Ond ma’r parcio wedyn yn ffi wythnosol, cyson sydd ddim yn cael ei ystyried weithie. Falle fydd hynny yn effeithio ar y niferoedd sydd yn cyfrannu."

'Trist'

Mae strydoedd cyfagos i'r maes parcio ar gael, ond mae llawer ohonynt yn lefydd parcio gyda thrwydded yn unig, gydag ychydig o lefydd heb drwydded ar gael.

Pryder Anwen Thomas, un o chwaraewyr y clwb yw y byddai nifer yn ceisio parcio yn y llefydd hynny er mwyn ceisio osgoi talu.

" ‘Da ni’n clwb sydd yn cynrychioli cannoedd ar gannoedd o bobl sy’n defnyddio’r tir ar y penwythnos," meddai.

"Ac er bod pedair awr yn swnio’n dipyn o amser i ni ar ddiwrnod gêm dydy o ddim yn ddigon.

"Ma’ pobl jyst, ar y cyfan yn mynd i drio defnyddio strydoedd eraill, felly mae’n mynd i effeithio cymuned yn eang fi’n meddwl. Ma’ jyst yn drist."

'Buddsoddi'

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi dweud bod angen iddynt arbed £30m ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25.

Yn ogystal â cheisio llenwi'r bwlch ariannol, bydd y newidiadau posib yn rhan o gynllun i annog pobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, meddai'r cyngor.

"Fel cyngor, mae'n rhaid i ni annog pobl i fod yn llai dibynnol ar eu ceir preifat.

“I wneud hyn, rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn llwybrau beicio a cherdded, yn ogystal â gwella'r seilwaith ar gyfer teithio ar fysus, fel y gall gweithredwyr bysus ddarparu gwasanaeth gwell a mwy effeithlon i'w cwsmeriaid.

“Y nod yw lleihau tagfeydd a gwella'r aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu yn sylweddol, gan wneud Caerdydd yn lle gwell i drigolion ac ymwelwyr.”

Mae'r cyngor yn cynnal ymgynghoriad tan ddydd Sadwrn ar y mater cyn penderfynu ar y camau nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.